Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yn un o'r duwinyddion goreu yn y sir. Yr hon dduwinydd galluog, John Thomas, Aberteifi, fu yn ei holi pan yn ymgeisydd, ac yr oedd trwy ei oes fel pe byddai wedi cael rhyw ysbrydiaeth dduwinyddol oddiwrtho. Byddai yn un o'r rhai mwyaf medrus i holi ymgeiswyr yn yr athrawiaeth, a chynghorai hwynt oll i fod yn gryfion ac iachus ynddi, a chadarn yn yr Ysgrythyrau. Ni chyfrifid ef yn un o'r pregethwyr blaenaf; eto, yr oedd yn pregethu yn fynych yn y Cymdeithasfaoedd. Yr oedd Edward Mason yn gyfaill iddo ar daith trwy y Gogledd pan yn pregethu yn Nghymanfa Llanerchymedd, y prydnhawn cyntaf, yn 1840. Rhoddwyd y bregeth hono yn y Drysorfa. Yr oedd y dynion mwyaf gwybodus yn fawr am ei wrando, gan y cawsent ganddo bob amser fêr duwinyddiaeth. Yr oedd bob amser yn fywiog a gwresog, y cwbl oedd yn tynu yn ol arno oedd ei lais sych ac anystwyth. Pan fyddai yr hwyl, codai ei fraich dde yn syth i fyny, ac ysgydwai hi yn wyllt am enyd, ac yna gostyngai hi i lawr, a'i dyrchafu drachefn yr un modd, a deuai yr "O! ïe," a "Bobol," yn bur fynych, fel pe byddai yn cael darganfyddiad newydd yn y drefn fawr. Yr oedd yn agor ei enau yn bur llydan, gan wasgu ei wefusau ar ei ddanedd, fel yn ymdrechu cael ei lais a'i bethau allan, nes y byddai y gwrid yn codi dros ei holl wyneb. Gwaeddai hefyd â'r llais oedd ganddo, nes y clywid ef o bell ac yn eglur. Safai yn syth yn y pulpud, fel wrth gerdded, gan ostwng yr ochr y byddai y droed yn myned i lawr, a symudai felly o hyd yn y pulpud. Yr oedd yn dal a chryf o gorff, pen crwn, a'i lygaid a'i wyneb a gwedd nervous ac ofnus arnynt. Ymddangosai yn llawn trafferth wrth bregethu, ac ymhob man. Yr oedd y rhan amlaf yn achwyn ar ei iechyd, er iddo fyw am 84 mlynedd.

Er ei fod yn ddyn diniwed a llwfr, eto, yr oedd yn gadarn yn yr athrawiaeth, ac i sefyll dros y gwirionedd mewn barn a buchedd, pan fyddai galw am y prawf. Pan alwyd ef i weinyddu disgyblaeth ar aelod am feddwi, dywedodd, "O! James Davies, yr ydych yn cael eich troi allan am y tro olaf am byth-un droed i chwi yn y bedd a'r llall ar y lan-cael eich claddu yn meddau y blys."