Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hanes am dano yn ei ddyddiau boreuol, ond y mae pob hanes a geir yn ei ddangos yn un diddrwg, llaith, a gwangalon : oblegid hyny, gellir dweyd am dano fel am Issachar gynt, "Efe a wêl lonyddwch mai da yw;" yn hytrach na myned i le ac i blith rhai bywiog a chynhyrfus, byddai unigedd a thawelwch yn well ganddo. Pan yn ysgol y Croes, rhan o hen gapel Penmorfa, dywedwyd wrth ei dad fod dau fachgen yn yr ysgol wedi ymladd a'u gilydd. "Mi waranta," meddai yntau, "nad oedd Shaci ni ddim yn agos atyn' nhw," gan y gwyddai am ei natur mor dda. Rhedeg y byddai ef yn lle sefyll brwydr, a llefain yn lle taeru am chwareu teg. Cyfranogodd i raddau helaeth o'r teimlad llwfr hwn trwy ei oes. Pan ymddangosodd ysgrif, "Y Ty Capel," yn y Cylchgrawn, dywedwyd wrtho mai efe oedd un o'r cymeriadau a osodid allan yn helynt y glep a'r gecraeth, oedd yn y tai capeli. Aeth yn ofidus dros ben, wylai yn chwerw, a bu yn methu cysgu am nosweithiau; ond yr oedd yn dyfod i Gyfarfod Misol Llechryd yn iach ei galon, ac ysgafn ei droed, gan ei fod wedi cael ei hysbysu nad efe oedd y cymeriad hwnw.

Dechreuodd bregethu tua diwedd 1821, felly bu yn pregethu fwy na thair blynedd cyn marw Ebenezer Morris, a bu gyda hwnw ar ychydig o daith trwy Sir Benfro. Ni chafodd ysgol ond a gafodd gyda un Shon Sais, fel ei gelwid, oedd yn cadw ysgol yn y Croes, a grybwyllwyd; ond yr oedd yn ddarllenwr llyfrau duwinyddol er yn ieuanc, a hoffai yn fawr gymdeithas hen bobl wybodus a phrofiadol yr eglwys a'r Ysgol Sabbothol, a hyny oedd yr addysg oreu a gafodd. Ni fu ei argyhoeddiad o bechod a'i ddychweliad at Dduw, ond fel ymddadblygiad graddol planhigyn natur. Eto, yr oedd ei bregethau yn hynod o brofiadol, yn dangos iddo deimlo rywfodd nes syrthio ar y ddaear, a gweled goleuni o'r nef, os nad yn ddisymwth, eto yn wirioneddol a chlir. Nid surprises, ymwelweliadau di-rybudd ac ofnadwy fu ymweliadau Duw âg ef, ond digon o eglurhad graddol a chyson o hono ei hun, nes ei gadw rhag myned yn rhy bell ar un llaw, na dyfod yn rhy agos ar y llall. Yr oedd ei ofn o Dduw yn "barchedig ofn."