Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond bu ar daith trwy Sir Fflint, a rhanau eraill o'r Gogledd, ryw adeg yn ei flynyddoedd olaf. Cafodd rai odfaon grymus ar y daith hono fel lawer gwaith ar hyd ei oes. Er iddo gael ei rwystro yn ei yrfa weinidogaethol, cadwodd ei gymeriad yn ddisglaer hyd ei fedd. Yr oedd yn gyfaill o'r fath fwyaf dyddan, a cheir llawer i dystio hyny eto gyda hiraeth, o'r rhai fu gydag ef yn y Ffynhonau a lleoedd eraill. Yr oedd yn un o'r rhai mwyaf gochelgar i beidio tramgwyddo neb, a gwyddai y ffordd i hyny yn gystal a'r goreu. Yr oedd bob amser yn siriol, a'i ymddiddanion bob amser yn hyfryd a charuaidd, fel yr oedd yn un o gyfeillion goreu y ffynhonau, a'r rhai yr oedd amser ganddynt i'w hebgor i gymdeithas. Ac os oes rhyw bethau hynod i'w hadrodd am dano, yn ei waith yn osgoi anhawsderau a pheryglon y maent i'w cael. Gadawai ef i bobl eraill roddi eu traed ynddi, fel y dywedir, os na fyddent yn ddigon call i astudio eu diogelwch a'u cysur mewn pryd. Dichon mai pethau tebyg a'i cadwodd rhag myned i ambell gyfarfod crefyddol, a llawer o gyrddau a lleoedd amheus. Iaith ei ymddygiad ef oedd, os creadur tir sych, nid oedd eisiau myned i'r dwfr; os creadur dwfr, doethach peidio bod lawer ar dir sych, os yn bosibl. Yr oedd yn ddyn glandeg ei olwg, gwallt du, ac felly bron i ddiwedd ei oes. Cerddai yn hytrach yn gam a myfyriol, a bob amser a golwg hamddenol arno. Un o daldra cyffredin ydoedd. Bu yn y weinidogaeth am oddeutu 50 mlynedd.

PARCH. JOHN JONES, PENMORFA.

O ran perthynas pregethwr a chapel, fel John Jones, Penmorfa, yr adnabyddid ef yn y Cyfundeb trwy ei oes. Symudodd deirgwaith, ond i'r un capel yr oedd yn myned. Adnabyddid ef yn ei ardal ei hun yn gyntaf fel John Jones, Sarnau, lle y bu yn gweithio ar y fferm gyda'i rieni, nes myned yn bregethwr; wedi hyny, fel John Jones, Closglas; ar ol hyny, fel John Jones, Dyffryn Bern; ac yn ddiweddaf oll, fel John Jones, Tanybwlch, tyddyn a brynodd iddo ei hun, ac i'w chwaer, Miss Esther Jones, yr hon a fu byw yn weddw fel yntau am ei hoes, a chydag ef hefyd. Nid oes llawer o