mwynhau mor dda, ac felly yn rhoddi ei lais allan tra y daliodd. Dywedai eraill mai effaith anwyd trwm ydoedd i ddechreu, ac yntau yn ymdrechu gormod cyn ei wellhau. Pa beth bynag, fel yna y bu am amser maith, er dirfawr siomedigaeth iddo ef, a llawn cymaint i̇'r cynulleidfaoedd oedd wedi ei glywed. Yr oedd yn rhoddi ambell i anerchiad yn Llanon pan yn ei waeledd, a dyna'r oll. Er iddo ddyfod lawer yn well, ni ddaeth ei lais byth cystal ag o'r blaen. Collodd yntau y blâs a'r gwroldeb oedd yn eu meddu o'r blaen gyda'r gwaith. Ni anturiai i'r pulpud ond ar amserau, a chyfrifai mai anerch ac nid pregethu yr oedd.
Yr oedd ei flynyddoedd ar ol ei gystudd yn rhai o ymdrech am adferiad, a gofal am gadw hyny a adferwyd. Treuliai fisoedd yr haf bron yn gyfain Llangamarch a Llanwrtyd. Yr oedd rhai yn barnu ei fod yn gwneyd gormod o hyny, y gallai ymwneyd llai â'r ffynhonau, a mwy â'r pregethu. Ond gwyddai ef nad oedd cystal ag y bu, a mynai wneyd ei oreu i ddyfod os yn bosibl; ac felly, dal i ymdrechu a wnaeth, ac yr oedd hyny yn ei gadw yn weddol. Pa fodd y buasai pe heb yr ymdrech hwn, ni wyr neb. Ymhen rhai blynyddoedd, rhoddai gyhoeddiadau yn ardaloedd y ffynhonau, a daeth yn weddol gryf i bregethu ar hyd Sir Aberteifi, fel y cafodd ei ddewis i'w ordeinio yn Nghymdeithasfa Rhiwbwys, yn 1853. Symudodd o Llanon i Rhydlas a Maenllwyd; a thra yno, gelwid ef Jenkin Jones, Penrhiw. Yna dychwelodd i Llanon i un o dai Llainlwyd. Treuliai ryw gymaint o amser yn Dowlais gyda'i fab, y Parch. David Jones, ac yn Llangeitho, gyda'i fab arall, y Parch. D. A. Jones; a phan gydag ef yn Aeron Park, y bu farw yn bur ddisymwth, dydd Gwener, Mai 16eg, 1884, pan yn 70 oed, ac a gladdwyd yn mynwent Eglwys Llansantffraid, yn ymyl Llanon.
Yr oedd mor debyg i'r efengyl yn ei bregethau a neb a adwaenem —cymerai ryw athrawiaeth bron bob amser yn destyn; ond nid traethu ar yr athrawiaeth hono y byddai, ac yna terfynu; byddai ef bob amser yn cymeryd ochr ymarferol yr athrawiaeth, a'i chymhwyso at y gwrandawyr. Ni byddai un amser yn faith, ond yn fyr ac yn felus. Oblegid ei waeledd, ni theithiodd fawr allan o'r sir;