Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd o ysbryd anturiaethus iawn. Yn ddyn ieuanc ymgymerodd â factory gwaith gwlân gwlad, a dangosodd gymaint o allu celfyddydol gyda hono nes synu pawb. Tynodd y wlad ato, a gwnaeth lawer o arian trwy yr anturiaeth hon. Daeth i ddeall fod arwyddion mŵn glo yn Cwm Cilfachrheda; ac wedi cloddio am gryn amser, clywid bloedd orfoleddus ryw ddiwrnod, oblegid fod darn mawr o'r mŵn gwerthfawr wedi ei gael. Pa fodd bynag, troi yn fethiant wnaeth yr anturiaeth hon. Y symudiad nesaf o'i eiddo oedd cymeryd rhan mewn amryw o longau, yr hyn a drodd allan yn llwyddiant mawr am flynyddoedd. Bu yr ymdrechion hyn yn ffynonellau llawer o bleser a gofid iddo, a gwnaethant eangu ei wybodaeth a'i brofiad yn fawr. Yr oedd yn mynu deall bron y cwbl am bob peth yr oedd ganddo law ynddo,—peirianau a gwaith y llaw—weithfa wlân, gwaith y mwnwr, a morwriaeth. Pan yn talu ymweliad a gwahanol weithfeydd, ac yn siarad am longau, yr oedd pawb yn synu at ei wybodaeth o honynt, a'r dyddordeb a deimlai ynddynt. Oblegid ei wybodaeth helaeth mewn morwriaeth, pregethodd lawer ar y geiriau hyny yn Jer. xlix. 23, "Y mae gofal ar y môr;" ac ysgydwodd gynulleidfaoedd mawrion trwy y bregeth hon lawer gwaith, yn enwedig pan yn agos i'r môr, a chafodd llawer morwr les mawr trwyddi.

Dechreuodd bregethu pan oddeutu 35 oed. Daeth yr hen ysbryd anturiaethus i'r golwg gyda'r gwaith mawr hwn eto. Er mor hen ydoedd, mynodd lawer o ysgol, i ddechreu gyda'r Parch. R. Roberts yn Llangeitho, ac ar ol hyny yn y Bala. Yr oedd yr ysbryd yn ieuengaidd, er fod yr oedran ymhell. Gwnaeth cymdeithasu fel hyn a phregethwyr ac â llyfrau, lawer er ei gaboli a'i goethi, a gwnaethai ragor oni bai ei fod yn rhy hen cyn dechreu myned dan y driniaeth. Yn fuan wedi dyfod o'r Bala, ymbriododd a Mrs. Anne Griffiths, y Gwndwn, ger Capel Ffynon. Agorodd hyn faes arall o wybodaeth o'i flaen, sef amaethyddiaeth. Ac wrth ei glywed yn siarad ag amaethwyr ar y pwnc hwn eto, yr oeddynt yn cael ar ddeall ei fod yn gwybod y ewbl yn ei gylch. Trwy y briodas daeth i fyw i Capel Ffynon, fel aelod crefyddol, a chymeryd gofal o