Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddwy fferm, sef y Gwndwn a Thafarnysgawen, fel dyn a gwladwr. Gan fod y plant yn gallu gofalu am y ffermydd yn Capel Ffynon, daeth ef a rhan o'r teulu i fyw yn niwedd ei oes i Blaenbargoed, Llanarth, ac yma y bu farw, Ebrill 17eg, 1876, yn 60 oed. Claddwyd ef yn mynwent Capel Ffynon. Bu yn rhodio glyn cysgod angau am beth amser yn y tywyllwch, ond gwaeddodd lawer gwaith wedi hyny fod y cyfamod yn dal. Dechreuodd dau o'i feibion bregethu gyda'r Methodistiaid, ond yn fuan aeth y ddau i Eglwys Loegr.

Profodd yn helaeth o adfywiad 1859, ac ni chollodd fawr o'r dylanwad hyd ei awr olaf. Ordeiniwyd ef yn 1860. Yr oedd yn bregethwr hwyliog iawn. Nid oedd yn gofalu fawr am drefn; chwilio allan y byddai am gynhyrfiad y dwfr, a phan ddelai, byddai yn sicr o wneyd defnydd o'r adeg, pe buasai yr odfa yn myned yn faith. Yr oedd ganddo lais cryf a nerthol iawn; a chan fod yr ysbryd hefyd mor wresog, byddai yno odfa gynhyrfus; ac yn fynych byddai y cynulleidfaoedd yn ei law, ac yn cyfranogi yn helaeth o naws yr efengyl. Yr oedd ganddo allu tuhwnt i'r cyffredin i wneyd defnydd o'r hyn a welai ac a glywai tuag at gyflenwi ei bregethau â hwynt. Pan yn pregethu am brynu yr amser, dywedai, "Pe byddai amser yn cael ei werthu yn Canton, China, byddai boneddigion y wlad hon yn myned yno wrth y miloedd i'w brynu. Yr oedd gwr bonheddig unwaith yn dweyd wrth y doctor mewn cystudd, 'Chwanegwch i mi 6 niwrnod, a rhoddaf i chwi 5,000p.' Yr ateb oedd, 'Nis gallaf pe rhoddech y greadigaeth i mi.'" Pan yn pregethu ar wledd priodas mab y brenin, dywedai "Mae llawer yn tlodi eu hunain yn y byd yma wrth wneyd gormod o wleddoedd, a galw gormod iddynt. Ond y mae ein Duw ni wedi gwneyd gwledd ar yr hon y mae miloedd yn gwledda er's oesoedd; ond y mae mor gyflawn heddyw ag erioed, a'r Gwr a'i parotodd heb dlodi dim arno ei hun." Eto, Bum yn y Bank of England, ac ni welais fwy o aur erioed. Daethoch allan yn gyfoethog? Naddo, yr oeddwn mor dlawd yn dyfod allan ag yr aethum i mewn, oblegid nid oedd genyf yr un demand.. ar y Bank; ond, bendigedig, mae genyf faint a fynwyf o demand ar fanc y nefoedd yn enw Iesu Grist."