Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/148

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i ddechreu byw. Ymhen rhai blynyddoedd, aeth i fferm Penlanoglau, lle y bu am saith mlynedd. Ac yna symudodd i Trial Mawr, lle y bu am y gweddill o'i oes, a lle y bu Mary, ei weddw, byw am flynyddoedd lawer ar ei ol Bu yn fasnachwr enwog mewn hetiau beaver, ac aeth son lawer am dano fel y cyfryw. Cadwodd lawer o weithwyr gydag ef am ryw dymor. Ni chafodd air da am un het gyda'r Parch. Thomas Phillips, D.D., Neuaddlwyd. Cyfarfu y ddau â'u gilydd pan oeddynt yn myned i bregethu, a dywedodd y Dr., ar ol y cyfarchiad arferol, "Dyma hat Evan Rees, wnaethoch i mi, mi gwerthwn hi nawr pe cawn rywun i'w phrynu, mae hi bron tori mhen i. Nis gwn paham y digwyddodd hyn ar hen weithiwr da fel chwi." Nis gwyddom hyd pa bryd y parhaodd gyda'r grefft. Mae yn debyg iddo roddi fyny hon pan aeth i Trial Mawr, ger Llanon. Gadawodd ei ferch Elizabeth, yn Penlanoglau, sef mam y Parch. John Davies, Penant.

Yr oedd wedi cael ei 25 oed, pan ddechreuodd bregethu, yn briod, ac yn dad plant. Yr oedd ei fywyd crefyddol er's ychydig o flynyddoedd cyn hyny, ei wasanaeth fel canwr da yn y cyfarfodydd, ac yn enwedig ei ddoniau rhagorol mewn gweddi, o ran materion a llais, wedi codi disgwyliad mawr yn yr eglwys am ei weled mewn maes eangach o ddefnyddioldeb. Pan ddechreuodd bregethu, cafodd dderbyniad buan i fynwes yr eglwysi. Cynyddodd ei boblogrwydd a'i barch gyda'u gilydd, a daeth yn ddefnyddiol iawn gartref ac oddicartref. Nid oedd ganddo lawer o amser at ddarllen, ond yr oedd yn feddyliwr cryf; a chlywsom yr hen bobl yn dweyd y byddai Evan Rees bob amser yn ffres, a rhyw bethau ganddo fyddai yn enill sylw bob tro y clywid ef. Dywed Mr. Hughes am dano, "Yr oedd yn pregethu ac yn cynal cyfarfodydd eglwysig ar hyd yr wythnos mewn amryw gapelau, a'r holl bobl yn edrych arno yn barchus fel eu bugail. Bara brwd, newydd ei bobi fyddai ganddo ar y bwrdd bob amser." Yr ydym wedi cael ar ddeall ei fod yn cael rhai odfaon grymus iawn, a bod llawer yn priodoli eu troedigaeth i'w weinidogaeth ef. Byddai yr hen flaenor, Evan Lewis, Garnfawr, Rhiwbwys, yn arfer dweyd mai