Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/149

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Evan Rees wnaeth iddo ef dori y ddadl, a'i fod yn deall fod amryw yr un fath ag ef. Pan yn pregethu yn Nghymdeithasfa Llanfyllin, yn 1832, oddiar Deut. xxxiii. 27, dywedai, "Nid oedd eisiau i'r llofrudd gymeryd ei walet ar ei gefn, wrth ffoi i'r noddfa; na, yr oedd yno ddigon ar ei gyfer. Ond y mae Duw yn Nghrist yn fil mwy o gynhaliaeth ar gyfer pechadur ar ddarfod am dano. Yma y mae bara (a bery i fywyd tragwyddol, a'r wledd o basgedigion breision. Mae yn ddigon diogel yma; odditanodd y mae y breichiau tragwyddol. Ni chyfeiliornwn pe galwn, ei gariad tragwyddol, ei gyfamod tragwyddol, a'i addewidion mawr iawn a gwerthfawr, yn freichiau tragwyddol. Ni ellais ddirnad erioed pa mor isel y syrthiasom, ac y mae'n debyg na allaf ddirnad byth, ond fe aeth y breichiau tragwyddol odditanodd, pa mor isel bynag yr aethom. Breichiau tragwyddol ei hyd, tragwyddol ei grym, a thragwyddol eu gafael. Os cawn fod o fewn y breichiau, byddwn yn agos at Dduw, ac yn nghynesrwydd ei fynwes. Hefyd, daw y breichiau a'u coflaid adref er gwaethaf pawb. Dyna ddywedir lyn y dydd mawr a ddaw, 'Wele fi a'r plant a roddes Duw i mi.' O'u rhifedi y byddom ninau oll."

Yr oedd yn arholwr Ysgol Sabbothol hynod o fedrus, dengar ac adeiladol. Byddai y bobl ieuanc yn hoff iawn o hono. Gwnelai sylw o bawb, ac yr oedd ganddo air pwrpasol i ddweyd wrth bawb. Yr oedd yn brydydd rhagorol. Cyfansoddodd farwnadau ar ol y Parchn. Eben. Morris, David Evans, Aberaeron, a John Williams, Lledrod; ac argraffwyd hwynt ar gais y Cyfarfod Misol. Yr oedd o gorff yn fwy na'r maintioli cyffredin, gwallt gwineugoch, gwyneb crwn, glandeg ac agored. Fel ei wynebpryd, felly yntau, dyn agored, serchog a charedig. Bu farw yn bur ddisymwth yn y flwyddyn 1834, yn 58 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Llanrhystyd. Ordeiniwyd ef yn Llangeitho yn 1826.

PARCH. JOHN REES, TREGARON.

Pan oedd Mr. Evan Jones, Ceinewydd, sydd yn awr gyda'i frawd, yn genhadwr yn Llydaw, yn cadw ysgol yn Tregaron, aeth at Mr.