Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/156

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gadarnhaol, daeth ei achos gerbron yn raddol, a dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1829, pan yn 34ain oed. Y lle y pregethodd gyntaf oedd yn nhŷ dechreuwr canu Capel Drindod, sef yn nhŷ James Griffiths, Cwmbach, oddiar y geiriau, "Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg, ond i'r rhai cleifion."

Yr oedd ganddo farn lled addfed am bron bob peth crefyddol cyn iddo ddechreu pregethu, ac felly daeth allan ar unwaith yn bregethwr rhagorol yn marn y rhai mwyaf cymwys i farnu. Yr athrawiaethol, yr ymresymiadol, a'r argyhoeddiadol, oedd y dull a gymerai. Nid oedd yn boblogaidd, nid oedd ei lais, na'i ddull yn ffafriol i hyny, ond yr oedd yn bregethwr rhagorol o dda yn nghyfrif y saint a'r gwrandawyr goreu. Yr oedd yn weithiwr diflino. Yr oedd yn saer sefydlog gyda Mr. Parry, y Gurnos, gan yr hwn yr oedd barn uchel am dano sel dyn didwyll, a phregethwr da. Wedi i hwnw farw, ymroddodd yn fwy llwyr at bregethu. Yn fuan ar ol hyn, cafodd alwad gan eglwys Pontrhydfendigaid, i ddyfod yno i ofalu am yr achos. Yr oedd hyn yn 1839; ac yn 1841, ordeiniwyd ef yn Llangeitho. Cadwai fath o ddosbarth Beiblaidd; ac er fod dynion hynod o alluog yn y Bont, yr oeddynt oll yn rhoddi fyny iddo ef. Casglodd lawer o ddefnyddiau i wneyd hanes Methodistiaeth y sir, ond gorfu arno roddi fyny, gan wendid a llesgedd. Tebyg i awdwr galluog Methodistraeth Cymru gael gafael ar ei ysgrifau, a'u rhoddi i fewn yn yr hanes. Yr oedd yn alluog iawn fel holwr yr Ysgol Sul, a gwnaeth lawer yn ei oes fer, ar ol Mr. Richards, tuag at lenwi ei le. Ei hoff feusydd gwybodaeth oedd, Dr. Owen, Charnock, a Howe; ac yn nesaf atynt, Leighton, Chalmers, Robert Hall, ac Edwards, America. Cafodd anwyd trwm tua diwedd 1845, ac ymaflodd y darfodedigaeth ynddo mewn canlyniad. Bu farw Medi 30, 1847, ar bwys y geiriau, "Yr hwn a osododd Duw yn Iawn." Yr oedd yn ddyn tebyg i'w fab, y diweddar Barch. Thomas Rees, Ffynon Taf, bron ymhob ystyr. Mae y Parch. John Rees, Treherbert, hefyd, yn fab iddo; gweinidog yw ef gyda'r Annibynwyr, ac mewn parch mawr. Claddwyd ef yn mynwent capel Tregaron, yn yr oedran cynharol o 52.