Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/155

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yw Joseph." Methodd eto yma, gan i derfysg gyfodi yn y gweithfeydd, a gorfu arno yntau ddyfod adref. Ar ol dychwelyd, bu mewn twymyn am 13eg o wythnosau, ac yn debyg o farw. Yr oedd yn penderfynu yn ei gystudd mai dyn annuwiol ydoedd, ac mai i uffern y byddai raid iddo fyned; ac ar yr un pryd, teimlai ormod o euogrwydd i droi at Dduw am drugaredd. Ar ol gwellhau, daeth yn fwy moesol, ond daliodd i fod yn anufudd i'r efengyl fel o'r blaen. Pan yn 24ain oed, priododd âg Elizabeth, merch David a Margaret Jones, Argoed. Pan oddentu 28ain oed, dechreuodd feddwl o ddifrif am ei gyflwr: a daeth rhyw awydd neillduol ar ei fam ei weled yn ymostwng i Grist. Ei fai o hyd oedd disgwyl am rywbeth nerthol, a hwnw heb ddyfod fel y meddyliai. Wrth wrando y Parch. Benjamin Williams, o Forganwg, yn Twrgwyn, yn pregethu ar y geiriau, "Cymoder chwi â Duw," aeth yn anesmwyth iawn. Y Sabbath canlynol, bu yn gwrando y Parch. Lewis Powell, Caerdydd, yn Castellnewydd, ar y geiriau, "A wrthodwyd gan ddynion," a gwelodd mai gwrthod Crist oedd ei bechod mawr ef; ac wrth glywed y pregethwr yn dangos rhagoriaethau Iesu Grist, teimlodd ei enaid yn ei garu, ac aeth adref fel un wedi cael tangnefedd. Y pryd hwn yr ymunodd â chrefydd; a thrwy gyfarwyddyd Eben. Morris, daeth yn gyflawn aelod yn fuan ar ol hyny. Ond bu galed arno wedi hyny, gan fod rhywbeth yn dweyd wrtho mai rhagrith oedd y cwbl. Er mwyn sicrwydd, darllenodd "Y cywir ddychwelwr," "Llun Agrippa," "Corff Duwinyddiaeth" Dr. Lewis ar waith yr Ysbryd," "Troedigaeth y wraig o Samaria," "Marw i'r ddeddf," &c., eithr methodd a chael adnabyddiaeth foddhaol o hono ei hun, dim ond cael penderfyniad i lynu, a gwneyd ei oreu o blaid Crist a'i achos. Daeth allan yn alluog a ffyddlon gyda'r Ysgol Sabbothol yr oedd yn cael yr ymddiried o wneyd pynciau iddi, a daeth allan i fod yn atebwr rhagorol. Wrth ei glywed yn areithio mor dda yn Nghyfarfodydd Daufisol, a Chymanfaoedd yr Ysgol, anogai Mr. Morris, Twrgwyn, a Mr. Richards, Tregaron, yr eglwysi a'r ysgolion i gadw golwg arno, a rhoddi gwaith iddo. Gofynodd rhai brodyr iddo a oedd yn cael cymhelliadau i bregethu, ac wedi ateb