Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

roddodd iddo i ddysgu Catecism byraf y Gymanfa, a'r ganmoliaeth roddai iddo. Yr oedd gwaith Gurnal, Bunyan, pregethau y ddau Erskine, Mer Duwinydddiaeth, a llawer o rai eraill o lyfrau ei daid i ddyfod i'w fam, a gwnaeth yntau ddefnydd da o honynt. Pan ddaeth yr Hyfforddwr i Capel Drindod yn 1808, dysgodd ef allan i gyd, ac adroddodd ef wrth y Parch. Thomas Jones, Caerfyrddin. Ni fu yn ffodus mewn dysgu crefft; methodd a chael iechyd fel gwehydd; a chan iddi fyned yn heddwch rhyngom â Ffrainc, pan oedd yn parotoi i fyned i'r excise, methodd yn hyny hefyd. Yna rhoddwyd ef i ddysgu saernïaeth coed. Bu mewn trallod mawr am ei gyflwr yr amser hwnw, ac yn agos at bethau crefydd y teimlai y pleser mwyaf, ond ni ymostyngodd i ddyfod yn aelod ar y pryd. Pan oddeutu 16eg oed, aeth i Llandyssul i weithio fel gwehydd; a phan yno, ymgaledodd yn fawr, ac aeth naws pethau crefydd o'i ysbryd; ond yr oedd ei hoffder o wybodaeth grefyddol yn aros. Byddai yn cael llawer o ddifyrwch mewn dadleu â'r Undodiaid am Dduwdod Crist, a byddai y rhai hyny yn synu pa fodd yr oedd bachgenyn o'i fath ef yn gallu dadleu mor rymus. Pan oddeutu 18 oed, gan fod ei iechyd yn pallu, y diwedd fu iddo fyned at ei dad i ddysgu ei grefft ef; a thrwy hyny, daeth i fwynhau moddion gras unwaith eto. Yr amser yma yr oedd clefyd yr ordeiniad wedi cydio gafael yn eglwys Capel Drindod, fel llawer o eglwysi eraill y Methodistiaid, ac aeth Thomas ei dad, i'r Eglwys, am nad oedd yn foddlon i bregethwyr y Methodistiaid gael eu hordeinio, ond arhosodd ei fam gyda'r Ymneillduwyr. Gwnaeth hyn Joseph Rees yn fwy caled fyth. Pa fodd bynag, yr oedd adeg ddadleuol felly ar bethau, yn cadw meddwl un mor graffus ag ef i chwilio drosto ei hun. Darllenodd waith Palmer yn fanwl, a rhai pethau eraill ar y ddwy ochr; a'r diwedd fu, iddo gael ei hun yn gryfach Ymneillduwr nag o'r blaen. Pan yn 21 oed, aeth i'r ysgol i ddysgu rhifyddiaeth, gan feddwl cael swydd o dan y Llywodraeth, ond yn aflwyddianus.

Aeth i Ferthyr Tydfil i weithio; a phan yn gwrando pregeth yn Pontmorlais, daeth i sefyll i raddau uwchben ei gyflwr. Yr oedd ei feistr yn dweyd, "Mae yn hawdd deall mai un wedi cael addysg