feddwl ei destyn, a safai arno, gan drin y gwahanol faterion yn. oleu a meistrolgar; ond yr oedd yn rhaid iddo gael dwyn i fewn wahanol ddywediadau o eiddo y tadau, ac amryw o hanesion, a chymhariaethau, fel yr oedd llawer yn barod i feddwl fod ei bregethau yn cael eu gwneyd i fyny o'r cyfryw, ac nad oedd dim dyfnder yn perthyn iddynt. Yr oedd bron bob amser yn sicr o sylw a theimlad y gwrandawyr. Pregethodd rai gweithiau mewn Cymanfaoedd nes synu a gwefreiddio y tyrfaoedd.
Un o daldra cyffredin ydoedd, corff tenau, gwyneb gwelw a thenau yn ateb iddo, ac wedi colli ei wallt ar ei ben pan yr adnabyddasom ef gyntaf. Bu oddeutu blwyddyn yn glaf, a bu farw Gorph. 17, 1869, yn 76 oed, wedi pregethu am dros 50 mlynedd. Cyfrifid ef yn dduwiol iawn, ac ymhell tuhwnt i'r cyffredin am ei ffyddlondeb gyda gwaith ei Arglwydd.
Dywediad o'i eiddo—" Crynhoi ynghyd yng Nghrist. Yr oedd holl ŷd yr Aifft y'ch ch'i i gael ei grynhoi dan law Joseph, felly y'ch ch'i mae yr holl dduwiolion i gael eu crynhoi ynghyd yng Nghrist. O, syndod ! y cwbl mewn UN. Gwasgaru y byd wnaeth Adda, ond y mae yr ail Adda yn crynhoi YNGHYD. A neges yr efengyl at y byd yw crynhoi YNGHYD." Yr oedd yn rhoddi pwyslais birfaith ar y gair "ynghyd."
PARCH. JOSEPH REES, RHYDFENDIGAID.
Ganwyd ef yn Tygwyn, yn agos i Gapel Drindod, Ionawr 27, 1795. Enwau eu rieni oeddynt Thomas a Mary Rees. Cafodd ei ddwyn i fyny wrth gapel Horeb, capel Annibynol, gyda thad ei fam, yr hwn oedd yn flaenor yn y capel, ac yn wr o wybodaeth helaeth, yn feddianol ar lawer o lyfrau Cymraeg a Saesneg. Cafodd mam Mr. Rees ysgol dda yn ei hieuenctid, a dysgodd Saesneg a Lladin hefyd. Cafodd ei egwyddori yn fanwl yn mhethau crefydd, yn enwedig yn Nghatecism y Gymanfa, ac esboniad Willison arno. Pan yn 11eg oed, daeth at ei rieni, gan fod ei daid wedi marw; ond ni ymadawodd â Horeb heb gofio llawer o bethau ddywedodd y Parch. John Lloyd, y gweinidog, megis yr anogaeth