Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/152

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gadw ysgol. Y pryd hwnw yr oedd cyfraith wedi ei gwneyd i bwyllgor o flaenoriaid a phregethwyr i arholi pob pregethwyr ieuainc am eu gwybodaeth yn benaf; a byddai y cwestiynau rhyngddynt mor ddyrus ac anhawdd, fel yr oedd yn anmhosibl bron eu hateb. Trowyd Thomas Williams, Llangeitho, yn ol oblegid nad oedd yn ddigon gwybodus; ac aeth Edward Jones, Ffosyffin, at yr Annibynwyr rhag eu hofn. Yr oeddwn yn lletya gyda John Davies, Talglas, hen flaenor y Penant, a byddwn yn myfyrio a gweddio nos a dydd rhag i mi gael fy nhroi yn ol yn Nghyfarfod y Penant. Ond pan ddaeth, dywedodd Mr. Richards fy mod i yn rhydd o'r arholiad, gan fy mod yn pregethu cyn gwneyd y ddeddf. Felly ni chefais fy holi ond yn y Cyffes Ffydd yn unig, ac yr oedd hwnw wedi ei ddysgu genyf yn ol cyfarwyddyd Thomas Jenkins, Penuwch. Wedi i Mr. Williams fy holi, dywedodd, 'Y fath werth i ni gael pregethwyr i bregethu fydd yn deall yr athrawiaeth fel y mae ef yma.'

"Wedi rhoddi yr ysgol i fyny yn Nebo, aethum at John Evans i Aberystwyth i ddysgu mathematics a navigation. Cynorthwywyd fi i dalu am fy ysgol gan bobl Aberystwyth, a chefais goron hefyd o focs y tlodion. Yna, aethum i gadw ysgol i Blaenplwyf; ar ol hyny, i ddysgu morwyr i Aberarth. Ar ol marw Ebenezer Morris, cynghorwyd fi i fyned i Twrgwyn i gadw ysgol, a chynorthwyo gyda'r achos." Bu ef yn Aberarth chwe' blynedd, a saith yn Twrgwyn. Yna symudodd at ei nai, Mr. John Lewis (Ioan Mynwy), i siop Rhydyronen, Tregaron, i'w gynorthwyo gyda'r fasnach, ac yno y bu hyd ei farwolaeth. Wedi i Mr. Richards farw yn 1837, dewiswyd Mr. Rees yn Ysgrifenydd y Cyfarfod Misol yn ei le, a bu yn y swydd am oddeutu 20 mlynedd, a chafodd dysteb o 20p. ar derfyn ei wasanaeth. Teithiodd lawer gyda Mr. Morris, Twrgwyn, a Mr. Richards, Tregaron, ac yr oeddynt yn ei gyfrif yn gyfaill o'r fath anwylaf; yfodd yntau yn helaeth o'u hysbryd, a difyr oedd ei glywed mewn Cyfarfod Misol, a lleoedd eraill, yn coffhau eu dywediadau. Yr oedd yn ysgrifenu bob amser yn seiat y Cyfarfod Misol, ac wrth wrando pregethau. Yr oedd yn bregethwr hollol ar ei ben ei hun' llais gwan, benywaidd, ond hynod o dreiddgar. Gwelai