Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am natur gwir grefydd, gan Joseph, Llwynderw, crefyddwr rhagorol, a gwnaeth hyny lawer o les i mi. Aethum i wasanaethu ar ol hyny at Thomas, Ty'nyporth, Ffosyffin, lle y lletyai y pregethwyr. Byddwn yn arfer myned gyda blaenoriaid y capel hwn i gyfarfodydd gweddiau ar brydnhawn Sabbothau, mor bell weithiau, a Mydroilyn. Yr oeddwn yn rhwym o weddio ar eu cais, a dweyd gair yn y seiat pan fyddent yn ceisio; a dywedent wrthyf, er mwyn fy nghefnogi, fod y pethau a ddywedwn yn werthfawr iawn, ac anogent fi i fyned ymlaen mewn llafur.

"Bum yn aros yn Ty'nporth am ddwy flynedd, a phan yma, y dechreuais bregethu, yn 24 oed. Pregethais gyntaf mewn tŷ ar dir Penrhiwdrych, yr hwn sydd wedi ei dynu i lawr, a hyny yn mis Mehefin, 1818. Wedi ymadael o Ty'nporth, dysgais grefft crydd, gyda Evan Shon Gruffydd, Penrhiwdrych. Yr oedd yn rhaid i bregethwyr yr amser hwnw ddysgu rhyw grefft. Pan yn gweithio gydag un Siencyn Llwyd, aethum i'r ysgol at Dr. Phillips, Neuaddlwyd, Byddwn yn gweithio un bythefnos, ac yn myned i'r ysgol y bythefnos arall. Edrychid yn ddiystyrllyd arnaf am fyned i'r ysgol, oblegid eu bod yn tybio fy mod yn myned yno i ddysgu pregethu, fel dysgu crefft. Bum fel hyn am yn agos i dair blynedd, nes y dysgais ddigon o Greek a Latin i ymuno a class yn Cheshunt College. Ysgrifenodd Mr. Richards, Tregaron, at y Prifathraw, sef Dr. Kemp am dderbyniad i mi, yr hyn yn garedig a ganiataodd am ½ blynedd. Ond wedi rhoddi yr achos o flaen y Cyfarfod Misol yn Mawrth, gwrthododd Ebenezer Morris, a Williams, Lledrod, i mi gael myned, yr hyn a fu yn siomedigaeth fawr i mi. Dywedodd Mr. Morris, 'Mae John Rees wedi cael digon o ysgol, heblaw myn'd i'r coleg i ddysgu tynu ei het a bowio.' Cynygiodd Dr. Phillips i mi gael myned i'r coleg a fynwn, ond nis gallwn ymadael â'r Methodistiaid. Gofynwyd i mi a fynwn fy nghyfarwyddo ganddynt hwy ynghylch pa beth i'w wneyd eto er fy nghynhaliaeth; wedi ateb yn gadarnhaol, cynghorwyd fi i gadw ysgol. Dywedodd Mr. Richards, 'Da iawn cael dynion tyner i gadw ysgol, ac nid butcheriaid; un tyner fydd John Rees.'. I Nebo yr aethum i