Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/160

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

er ei fod yn ymddwyn yn weddol o dafarnwr cyn hyny. Yr oedd ar bobl y lle ofn siarad ag ef, oblegid ei fod yn danod iddynt fod rhai yn gwneyd diod ar gyfer y Ty Capel heb drwydded. Dywedir fod golwg ofnadwy ar Mr. Richards pan gododd i siarad ag ef, ac y dywedodd, "Beth oedd a fynech chi a dod yma heddyw? Ty y Brenin yw y ty hwn. Cymerodd bachgen Bethlehem fflangell o fân reffynau i lanhau y ty hwn, a rhaid ei gadw yn lân, costied a gostio. Yr ydych chwi yn gwybod yn dda na ddylech fod yma, ac allan y rhaid i chwi fyn'd. Rhowch le iddo." Aeth, heb ddweyd gair, a gwnaeth y gynulleidfa le iddo.

Dro arall, yr oedd ffermwr wedi tori y Sabbath ar amser cynhauaf medi, yn cael ei osod o'i flaen, a gofynodd iddo, "A fuoch chwi yn y cae y diwrnod hwnw ?" Do," meddai y dyn. "A ddarfu i chwi wneyd rhywbeth i'r ysgubau ?" "Do, mi godais i ysgub neu ddwy wedi cwympo." "A o'ech chwi yn meddwl eich bod yn troseddu yn erbyn Duw?" Atebodd y dyn yn ddistaw, "Ow'n yn dyall hyny." Yna gofynodd drachefn, " Beth sydd wedi dangos i chwi eich bod yn troseddu wrth fyned i'r maes i drefnu yr ysgubau ar y Sabbath?" "Mae y Beibl yn dweyd," oedd yr atebiad, "O!" ïe, y Beibl, Gair Duw yw hwnw. A welwch chwi y nefoedd yna, y ser planedau, a'r ddaear sydd yn rhoddi y cynhauaf i chwi ? Mae dydd i dd'od pan yr ä y rhai yna heibio gyda thwrf, a'r ddaear gan wir wres a dodda, ond Gair ein Duw ni a saif byth. Mae y gair hwn yn dweyd, 'Na wna ynddo ddim gwaith,' a beth oedd a fynech chwi a'r ysgubau ar y fath ddydd? Dywedodd ar ol y dylif na fyddai dylif wed'yn, ac ni fydd chwaith, ond ni ddywedodd ar ol llosgi Sodom na fyddai tân wed'yn, ond y mae yn dal i ddweyd y bydd, a bydd yn siwr o ddal i ddweyd am y Sabbath, Na wna ynddo ddim gwaith,' p'un a wrand'wn ni neu beidio." Cafodd y dyn ei dori allan, a hyny "er esiampl i eraill," meddai yr hen efengylydd, "yn gystal ag o barch i'r gorchymyn."

Yr oedd yn bregethwr rhagorol. Mae yn anhawdd penderfynu pa un ai ei frawd ai efe oedd y pregethwr mwyaf; ond yr oedd gan bob un ei neillduolion, a'r rhai hyny yn gwneyd pob un yn