Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/161

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bregethwr mawr. Pan bregethai ei frawd, yr oedd yr awyrgylch, yn y cyffredin, yn fwy llawn o drydan, o fellt a tharanau, a chorwyntoedd, na phan y pregethai efe; a phan bregethai yntau, yr oedd mwy o wlaw hyfryd yn disgyn, megis ar amser sychder, a mwy o awyr glir, a gwres cymedrol, fel ar adeg cynhauaf, na phan bregethai ei frawd. Dymunoldeb hyfryd yn toddi i edifeirwch, nefoldeb gogoneddus yn dyrchafu y meddwl at weledigaethau paradwysaidd, ac atdyniad dwyfol yn swyno y dyn i hoffi pethau cysegredig, y goruwchnaturiol a'r pur, oedd y dylanwad pan bregethai Eben, nes y byddai y gynulleidfa yn barod i waeddi, "Mor brydferth yw traed yr hwn sydd yn efengylu tangnefedd, yr hwn sydd yn efengylu pethau daionus." Pregethai gan amlaf a'r dagrau yn llifo dros ei ruddiau, a'r gynulleidfa o'i flaen yr un fath. Gallai ef ddweyd bron bob amser, fel Moses, "Fy athrawiaeth a ddefnyna, fel gwlaw, fel gwlithwlaw ar îrwellt, ac fel cawodydd ar laswellt."

Yr oedd yn statesman crefyddol o'r fath oreu. Yr oedd yn weithiwr diorphwys a difefl. Mae y daflen ganlynol a gaed yn ei ddyddlyfr, yn rhoddi rhyw gipolwg ar ei lafur. "Pregethodd 7,048 o weithiau; gweinyddodd Swper yr Arglwydd 1,360; bedyddiodd 824; pregethodd mewn 651 o gyfarfodydd pregethu, sef Cyfarfodydd Misol a Chymanfaoedd; a theithiodd 59,092." Mae y daflen yn un hynod pan feddylir na fu yn y weinidogaeth ond prin 34ain o flynyddoedd; ac iddo fod i raddau yn gaeth fel ysgolfeistr am ryw chwech o'r cyfryw. Yr oedd ei lafur yn fawr fel ysgrifenydd y Cyfarfod Misol a'r Gymanfa. Yn 1814, dechreuodd ar ei ymdrech fawr i gael y cynulleidfaoedd i deimlo mwy dros, ac i gasglu yn helaethach at Gymdeithas y Beiblau, a Chymdeithas Genhadol Llundain, mewn cysylltiad a'r hon yr oedd y Methodistiaid ar y pryd. Yr oedd ei ddoethineb mawr, ei allu i ddenu y bobl, a thegwch ei ymresymiadau, y fath, fel y llwyddodd yn ei amcan i raddau anhygoel. Yr oedd gan y wlad gymaint o ymddiried ynddo, fel yr oedd pawb yn barod i'w ganlyn. Ac er iddo lwyddo ymhob cylch yr ymgymerodd ag ef, ni fu yn fwy llwyddianus gyda dim nag mewn cysylltiad â'r Ysgol Sabbothol. Yr oedd