Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn holwr ysgol di-ail, a rhoddodd Gymanfaoedd Ysgolion ar dân ugeiniau o weithiau, trwy ei ddull dengar ac effeithiol o holi. Gwnaeth lawer trwy hyn i osod bri ar y sefydliad yn ngolwg pawb. Nid oedd ef yn boddloni ar gyfarfodydd cyhoeddus fel hyn ychwaith; ond mynodd fyned yn nes at y werin trwy sefydlu ysgolion ymhob cwm, ac ar bob bryn, lle y byddai ychydig o ddynion mewn angen cael eu haddysgu yn Ngair Duw. Trwy ymdrech mawr y cafodd y gangen ysgol gyntaf yn Tregaron, ond gwelodd bedair o honynt cyn iddo farw, heblaw cangen y capel. Felly y gwnaeth mewn lleoedd eraill, nes enill yr holl wlad i'r ysgol, ac yna godi ysgoldai; ac yn y diwedd, sefydlu achos a chodi capelau. Trwy y cynllun hwn, dygodd yr holl wlad yn Ngogledd Ceredigion, o Aberaeron a Llanbedr i fyny, fel y gwnaeth Dafydd gynt, dan deyrnged i grefydd. Cafodd lawer i'w gynorthwyo, ond efe oedd yr arweinydd a'r prif gynorthwywr. Efe gyfansoddodd "Reolau yr Ysgol Sabbothol," ar gyfer yr ysgol gartref, y cyfarfod athrawon, y Cyfarfod Daufisol, y cyfarfod blynyddol, a'r cymanfaoedd. Yr oedd ef yn un o'r prif offerynau gyda chyfansoddiad y Cyffes Ffydd a'r Weithred Gyfansoddiadol yn y blynyddoedd o 1822 hyd 1826. Ac efe a anfonwyd trwy yr oll o'r Deheudir i weled yr holl ymddiriedolwyr yn arwyddo y Declaration of Trust a'r Constitutional Deed, fel yr anfonwyd y Parch. John Elias trwy y Gogledd. Yr oedd gan ei enwad ymddiried ynddo fel un o graffder rhagorol i ddysgu y bobl, i ddeddfu ar gyfer eu hangen, ac i weithio yn ddi-ildio er cael y cynlluniau i weithrediad.

Yr oedd Mr. Richards yn ei enwad ac i'r wlad, fel yr oedd Bacon ymhlith athronwyr, yn dangos pethau yn alluadwy a chyraeddadwy ac yn dysgu y ffordd i'w dwyn i ymarferiad er mwyn y lles cyffredinol. Bu ef i Gymru, yr un fath ag y bu Wesley yn Lloegr ac America, yn trefnu corlanau ar gyfer y praidd gwasgaredig, ac yn deddfu ar gyfer eu diogelwch a'u cysur. Efe oedd Charles y Bala, yn enwedig i'r Deheudir ar ol i Mr. Charles ei hun farw. Bu gan y Methodistiaid lawer pregethwr rhagorol fel yntau, ond fel Acestes yn Virgil, "Anelu eu bwa at y ser yr oeddynt." Nid nerth i dynu