Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/163

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y bwa oedd eisiau er argyhoeddi dynion, ond llygad craff i drefnu ar eu cyfer wedi iddynt ddyfod i'w hiawn bwyll. Yr oedd Mr. Richards yn un o legislators penaf Cymru yn yr ystyr o ddwyn diwygiadau i afael y bobl, a llesoli cymdeithas yn gyffredinol. Wrth ystyried y fath un oedd y tad, nid yw yn rhyfedd i'w fab, trwy ei drefniadau, wneyd cymaint o les i'r Cymry ac i Anghydffurfiaeth, nes enill iddo ei hun y gofgolofn oesol osodwyd i fyny ar yr ysgwar yn Tregaron. Mae bedd a cholofn ei dad yn mynwent Eglwys Tregaron. Bu farw yn bur ddisymwth, Mawrth 9, 1837, yn 56 oed. Dychwelodd o Salem pan oedd ef a Mr. John Morgan, Aberffrwd, ar ganol eu taith yn ymweled a'r eglwysi.

PARCH. ROBERT ROBERTS, LLANGEITHO.

Ganwyd ef yn agos i Llwynglas, Tre'rddol, yn 1800. Ond y lle bu ei fam byw ar ol priodi oedd Glandwr, yn agos i Gogerddan. Yr oedd yn wraig o dduwioldeb diamheuol. Aeth i fyw at Mr. Roberts i Llangeitho ar ol claddu ei phriod, ac yn yr un fynwent ag ef, sef un y capel, y claddwyd hi. Cafodd Mr. Roberts ysgol dda yn ieuanc, a hyny un Llanfihangel-genau'r-glyn, yr hon a gyfrifid yn enwog gynt, gan mai y goreu o ysgol Ystradmeurig a ddewisid i'w chadw. Ar ol i'w rieni benderfynu peidio ei anfon yno yn hwy, gofynodd y periglor Evans, Llanfihangel, i'w dad, "Beth ydych yn myn'd i wneyd a Robert, Jack? Mae wedi cael rhy fach o ysgol i wneyd dim o honi, ac y mae wedi cael gormod i fyn'd i ochr y clawdd. A pheth arall, Jack, y mae yn ormod o ddysgwr i chwi fyn'd ag ef i weithio, mae Robert yn siwr o wneyd rhywbeth o'i ysgol. Gwnewch wrando arnaf fi, byddwch yn ffol iawn os gadewch ef ar mae wedi gael." Gwrandawyd ar y cyngor, a chafodd Robert fyned yn ei flaen nes dysgu digon i fyned yn un o athrawon ysgol enwog Staines, tref oddeutu pymtheg milldir yr ochr hyn i Lundain. Yr oedd yn myned o'r lle hwn i Jewin Crescent ar ei draed bron bob Sabbath; ac yr oedd golwg fawr gan y cyfeillion yno arno fel un o dalentau disglaer, a chymerai ran ymhob gwaith a geisient ganddo, ond pregethu. Cymhellwyd ef i hyny, ond ni fynai.