Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/164

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gyda chadw ei hun a phrynu llyfrau yn Staines, ystoriodd ryw gymaint o arian. Cymhellwyd ef, a chydsyniodd yntau, i godi tŷ ar y North Parade yn Aberystwyth. Wedi dechreu, cynghorwyd ef i godi dau, a thrwy hyny aeth i ychydig o ddyled; ac yr oedd dyled a balchder y pethau mwyaf annioddefol ganddo o ddim trwy ei oes. Clywsom ef yn dweyd gyda nerth fwy nag unwaith, yn erbyn annoethineb ac anystyriaeth y bobl ieuainc oedd yn gwario mwy na'u henillion ar wisgoedd ffasiynol, ac ar flysiau pechadurus. Un o'i fath ef allai ddweyd, un wedi bod gymaint ar hyd y byd, yn ngolwg cynifer o demtasiynau, ac wedi ymgadw yn eu canol, rhag ymollwng gyda "chwant y cnawd na balchder y bywyd." Pa fodd bynag, rhoddodd yntau ffordd gyda'r ysmocio; ac yr oedd rhai yn dweyd ei fod yn ymwneyd cymaint â'r arferiad fel yr oedd y mwg yn gadael ei argraff ar ei wyneb ac ar ei wisgoedd. Yr oedd yr anghysondeb hwn i'w weled ynddo trwy ei oes, sef bod yn ofalus iawn am ei amgylchiadau, ac eto bod yn hollol ddifater am dano ei hun. Er fod ganddo ddillad, yr oedd yn hollol ddiofal pa olwg fyddai arnynt, fel mai anaml y gwelid ef a gwedd drwsiadus arno. Wrth weled ei agwedd wledig mewn Cymanfa, ymgynghorodd rhai gwragedd da a'u gilydd ynghylch gwneyd cynorthwy iddo mewn rhyw ddull; ond wedi clywed ei fod yn wr cyfoethog, ac mai ei ffordd ef o fyw oedd yr achos o'r cwbl, gwelsant mai doethach oedd peidio gwneyd dim yn mhellach. Dyma y gwr grymus a glywsom unwaith, wrth draethu ar y gwahanol ffurfiau yr ymddangosai balchder ynddynt, yn gwneyd y sylw a ganlyn:"Yr oedd un dyn yn cyhuddo Socrates ei fod yn wr balch, a bod yn gywilydd ganddo ef ei weled mewn cymdeithas, gwr o'i fath ef oedd yn dysgu cymaint i'r byd, ac eto fod mor analluog i ddysgu ei hun. Ateb yr athronydd oedd, 'Ah, y rhagrithiwr balch, yr wyf yn gweled dy falchder di trwy dyllau dy got." Yr oedd ef ymhell o fod yn haeddianol o'r cerydd hwn, gan fod ei wisgoedd yd weddol dda, ond ei fod am fod yn debyg i'r hen Fethodistiaid yn ei ddull o fyw. Parhaodd fel hyn trwy ei oes, er iddo fyw i weled newidiadau lloerigol y ffasiynau. Gwrthododd fynu cerbyd