Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/165

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w gludo o un man i'r llall; dim ond marchogaeth anifail iddo ef, Gwrthodai y goler wen am ei wddf; y napcyn sidan du iddo ef.

Ni ddechreuodd bregethu nes bod yn llawn 40 oed, er cymaint o gymhelliadau i hyny a gafodd yn Llundain a Phenygarn. Yr oedd yn weddiwr rhagorol bob amser, ac yr oedd llawer yn gwybod am ei dalent fel esboniwr Beiblaidd da. Y peth wnaeth y brodyr yn Mhenygarn o'r diwedd oedd, dymuno arno esbonio ychydig ar y benod yn y cyfarfodydd gweddiau cyn myned i weddi. Gwnaeth hyny mor swynol fel yr aeth son am dano trwy yr holl gymydogaeth; a gwnaeth hyny y cyfarfodydd gweddiau yn bur boblogaidd pan y byddai ef gartref ar y gwyliau. Pan oedd un yn gofyn i ddyn pur anystyriol i ddyfod i'r cwrdd gweddi, "Deuaf," meddai, os caf glywed Robin Beti yn esbonio y benod, a Shani Down yn gweddio." Ni alwent ef felly i'w ddirmygu, ond dyna ffordd yr oes o enwi y naill y llall. Parchai pawb ef fel y mwyaf a'r goreu yn yr ardal. Er i'r brodyr fel yma ei gael i esbonio y benod, nid oedd yn bosibl ei gael i wneyd mwy. Ei ddadl fawr am beth amser dros beidio dechreu pregethu oedd, fod arno ddyled am y tai a gododd. Tua'r amser hwnw dechreuodd dirwest, a daeth allan fel areithiwr dirwest, fel yr oedd yn rhaid ei gael i bob cyfarfod ac i bob gwyl. Tua'r amser hwn hefyd y daeth galwad arno fyned i gadw yr ysgol ramadegol oedd yn Llangeitho, gan fod y Parch. John Jones, Borth, wedi ei rhoddi i fyny. Aeth y son am dano yn Llangeitho fel gweddiwr, fel areithiwr yn y Cyfarfod Dau-fisol, a'r cyfarfodydd dirwestol; a chan ei fod yn awr wedi gorphen talu yr oll am y tai, cafwyd addewid ganddo i ddechreu ar y gwaith o bregethu, a hyny oddeutu dwy flynedd wedi ei ddyfodiad yma. Ni laesodd ddwylaw gyda dirwest a'r Ysgol Sabbothol wedi myned i bregethu, ond yn hytrach defnyddiodd y pulpud i gynyddu ei ddylanwad o'u plaid. Ei ddull o holi ysgol oedd arwain y bobl a llefaru y rhan fwyaf ei hun, a hyny fel pe byddai yn pregethu, a'r ysgol a holai a'r gynulleidfa oedd yn gwrando, yn melus fwynhau yr holl wasanaeth. Gwnaeth ei oreu gyda dirwest ymhob ffurf arni. Dadleuodd lawer dros Demlyddiaeth o'r pulpud, ac yn