Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/166

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nghynadleddau a seiat y Cyfarfod Misol. A llawer o flynyddoedd o flaen Temlyddiaeth, yr oedd ef mewn Cymdeithasfa yn Nghaerfyrddin yn cadw cyfarfod dirwestol, a'r Parchn. David Charles, B.A., Trefecca, a John Phillips, Bangor. Yr oedd ef yn ystod ei araeth yn gofyn yn ddylanwadol iawn, "Pa beth mor effeithiol ddyfeisiwyd erioed i fyned rhwng cysylltiadau agosaf ac anwylaf bywyd a'r diodydd meddwol? Pwy feiddia fel y rhai hyn fyned rhwng gwr a'i wraig, rhwng tad a'i blant, a rhwng y fam a'i phlentyn sugno? Mae hon yn lladd y tynerwch mwyaf sydd yn y natur ddynol, a thrwy barhau i'w hyfed, mae dyn yu myn'd yn ellyll uffernol gerbron ei deulu, a cherbron cymdeithas."

Yr oedd yn bregethwr parod cyn iddo ddechreu pregethu, oedd y fath ddisgwyliad yn y wlad am ei glywed, fel y rhoddwyd ef i bregethu yn y Cyfarfod Misol cyntaf y daeth iddo fel pregethwr; ac yr oedd y bregeth a'r dylanwad y fatb, fel yr oedd pawb yn synu, ac yn gofyn, "Pa le y bu hwn hyd yn awr?" Ei destyn oedd, Paham y dirmyga yr annuwiol Dduw." Y pethau oedd yn cael ei dweyd am dano y pryd hwnw oedd, ei fod yn gwybod saith o ieithoedd, a'i fod mor addfed i fyned i bregethu, fel yr oedd ganddo bymtheg o bregethau yn barod cyn cychwyn. Yr oedd yn ysgolhaig gwych, ac yn y grediniaeth hono am dano y cafodd gynyg ar fyned yn Brifathraw i Drefecca, ar ol Dr. Charles. A beth bynag am y 15 o bregethau parod, gellir dweyd iddo ef ddyfod allan yn ei gyflawn faintioli fel pregethwr ar ei gychwyniad, ac na chollodd dir o ran ei boblogrwydd na'i effeithioldeb, hyd ddiwedd ei yrfa. Edrycher arno funyd; dacw ef yn dyfod i fewn i'r capel, yn ddyn llawer talach na'r cyffredin, ac nid yw y rhan uchaf yn gymaint felly ychwaith y ddwy goes sydd yn gwneyd i fyny y rhan fwyaf o'r taldra. Dyn tenau, gyda gwyneb gwelw, gwallt llwydgoch, ac yn dal felly er gwaethaf henaint; whiskers o'r un liw, ac yn dyfod i lawr yn ol yr hen ffasiwn, hyd haner y bochgernau. Mae y war yn hytrach yn gam, a'r pen yn sefyll ymlaen, a cherdda rhwng araf a chyflym, fel y gwna bob amser ar hyd y ffyrdd a'r llwybrau. Pan yn gweddio, saif a'i law ddehau dan