Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/167

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei gern ddehau, a gweddia mewn llais wylofus, gyda thaerineb mawr; ac y mae pawb yn deall ei fod ef a'i Feistr yn lled gyfarwydd a'u gilydd. Gwel pawb fod gweddi y dyn, fel y dyn ei hunan, ymhell tuhwnt i'r cyffredin a glywir o'r lle difrifol hwn. Pan yn dechreu pregethu, sefydla olwg ei lygaid llwyd-ddu, treiddgar, a hwyrach yn fychain, ar ryw ysmotyn o'r capel sydd draw ar ei gyfer, ac yno y safant, oddieithr rhyw droad disymwth yn awr a phryd arall. Mae yn ei bregeth, fel gyda'i lygaid, fel pe byddai wedi sefydlu ei feddwl ar ryw bwynt penodol, ac ymestyna eto o radd i radd yn gwynfanus a thrafferthus, gan besychu ychydig, heb yr un pen nac adran, nes cyrhaeddyd ei nod gyda rhwysg a gogoniant mawr, fel gwron buddugoliaethus, yn nghanol banllefau cymeradwyol meddyliau y dyrfa. Cyfoda ei lais yn raddol, ac y mae ei floeddiadau, y rhai sydd oll yn y cywair lleddf, yn cynhyrfu yr holl dyrfa. Mae y llais yna yn ddigon hyglyw i lonaid cae o bobl allu ei glywed ar ddydd y Gymanfa fawr. Mae gan y pregethwr feddyliau da, a'r rhai hyny yn cael eu gosod gerbron y gynulleidfa mewn iaith goeth, mewn arddull athronyddol ac aruchel, ac ar yr un pryd, mae pawb yn ymwybodol fod y pregethwr o ddifrif yn amcanu at ddeffro cydwybodau y gwrandawyr, a chodi eu meddyliau at yr uwch-anianol a'r sanctaidd, ac y mae yn llwyddianus y rhan amlaf i gyraedd ei amcan.

Mae pawb yn gweled fod ynddo ddefnyddiau areithiwr o'r fath oreu. Os amheuir hyn, dilyner ef i bob man, a gosoder ef i roddi anerchiad ar unrhyw fater, a cheir gweled ei fod yn wir feistr y gynulleidfa. Mae yn gallu dweyd yn dda ar bob pwnc. Dywed rhai mai yn y pregethu yr oedd ei ragoriaeth; dywed eraill mai yn seiat y Cyfarfod Misol; a dywed pobl Llangeitho na wyddai y wlad ddim am ei fawr nerth, mai ar lan beddau y saint gyda hwy yr oedd ei hynodrwydd mwyaf yn dyfod i'r golwg. Y gwirionedd am Mr. Roberts yw, ei fod yn fawr ymhob man fel traddodwr nerthol a hyfryd ar unrhyw bwnc. Os oedd diffygion ynddo, y rhai canlynol oeddynt. Nid oedd ei bregeth yn un hawdd ei chofio. Nid oedd