Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/168

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn meddu ar allu i sefyll dadl; nid am nad oedd yn deall y mater, ond am nad oedd wedi arfer dadleu. Doniau i siarad yn ei flaen oedd ei ddoniau ef. Diameu pe buasai wedi arfer dadleu, y buasai yn gallu dyfod yn fedrus ar hyny hefyd. Gan nad oedd yn alluog a medrus yn hyn, dichon mai hyny oedd yn gwneyd ei ddiffygion hefyd i wastadhau ewerylon rhwng pleidiau, a dylanwadu er adferu tangnefedd lle yr oedd wedi ei golli. Ond yr oedd ei rinweddau yn gorbwyso ei holl ddiffygion. Er nad oedd yn ddarllenwr mawr yn ei flynyddoedd olaf, yr oedd yn feddyliwr da bob amser. Er nad oedd yn ymddangos yn y cyhoedd mor foneddigaidd ag y mynai rhai, yr oedd yn amlwg bob amser mewn hunanymwadiad, a'i fod yn ymdrwsio oddifewn â gostyngeiddrwydd. Yr oedd yn ddiddadl yn un o'r cewri fel pregethwr, eto ni ddaeth neb i feddwl fod ynddo ef yr un duedd i honi dysg, dawn, na nerth. Ni wnaeth ysgrifenu fawr erioed, ac nid oedd yn foddlon i neb gyhoeddi ei bregethau. Ni fynai ddangos ei hun yn ei fywyd, a dichon mai hyny oedd yn peri iddo ddymuno na chawsai ei bregethau eu cyhoeddi. Rhoddwn yma rai darnau ddarfu i ni ysgrifenu wrth ei wrando ar wahanol adegau:

"Os yw dyn am golli ei gysgod, rhaid iddo droi ei wyneb at yr haul. A da iawn fyddai i chwi fel blaenoriaid (Aberaeron), ddyfod felly weithiau gerbron yr eglwys, fel Moses wedi bod gyda Duw ar y mynydd. Y mae ysbryd dyn yn ei wneyd yn gymwys i ddał cymundeb â Bôd sydd yn Ysbryd Anfeidrol, a thuag at hyny, rhaid i ysbryd dyn fod yn ei le priodol ei hun. Pan y byddo felly, daw allan yn ei symplicity, yn onest a gostyngedig. Dyna yw ystyr addoli-bod ar y gliniau yn cusanu y llwch. Aeth Robert Hall allan o'r capel wedi iddo weled agwedd falch pregethwr ieuanc oedd yn y pulpud. Dylem ninau oll fod yr un fath, gan fod Duw yn ffieiddio Ꭹ balch o hirbell. Nid oes dim yn tueddu at lwyddiant addoliad yn fwy nag ysbryd gostyngedig teilwng o bechadur, ac o burdeb natur Ꭹ Duw a addolwn."

"Mae arfogaeth y Cristion o natur ysbrydol, yr un fath a'r rhyfelgyrch y maent wedi eu parotoi ar ei gyfer. Gelynion ysbrydol