Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/169

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sydd genym, ac â'r ysbrydol gan mwyaf y mae a fynont; ond cael ysbryd y meddwl, cânt y dyn i gyd. Dylem, oblegid hyny, fod yn wyliadwrus iawn ar ein meddyliau. Mae Dr. Owen yn dweyd fod y diafol, trwy gael awr anwyliadwrus ar y dyn, yn gallu gwneyd mwy o ddrwg iddo nag a wnelai mewn blwyddyn heb hyny. Er holl fanteision yr oes hon mewn dysg, esiamplau da, a chynydd celfyddydol, mae pechod yn aros fel cynt. Ond ni raid digaloni, mae Duw wedi trefnu ffordd i gyfarfod â'r anhawsdra; mae ef yn rhoddi gallu mewnol yn y dyn i wrthwynebu y galluoedd ysbrydol hyn. Mae yn rhoddi grasau amddiffynol ac ymosodol."

"Mae y diafol yn ymrithio yn rhith angel goleuni, ac felly yn twyllo meddyliau dynion i gredu pethau na ddylent; ac oblegid hyny, yr oedd Crist yn gorfod dweyd hyd yn nod wrth ei ddisgyblion, 'Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych,' a hyny oblegid 'nad oeddynt yn adnabod ei ddichellion ef.' 'Cynllwynion diafol.' Peth enbyd yw rhoddi cynllwyn yn erbyn tref, mae yno fradwriaeth yn erbyn dynion pryd na byddont yn meddwl. Dichon fod y cynllwyn yn erbyn rhai sydd yma heddyw. 'Gwyliwch a gweddiwch fel nad eloch i brofedigaeth.' Mae rhai yn rhoddi eu hunain yn agored i demtasiynau'r diafol. Os meddyliwn am y train o Llanbedr i Aberystwyth, rhaid dweyd fod rhyw ddiffyg mawr yn rhywle er yr holl fanteision: mae yn waeth o lawer nag o Aberystwyth i Machynlleth. Mae yn dda cofio fod rhywbeth yn gryfach na phechod, ac na'r diafol ei hun. 'Yn y pethau hyn oll, yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr trwy yr hwn a'n carodd ni. Mae gras yn gryfach na'r holl elynion i gyd. Mae yn dyfod a dyn i orchfygu ei hunan, ac felly bydd yn fwy na choncwerwr. Haws ymwadu â chyfoeth a phobpeth nag ymwadu â hunan, ond myn gras fod yn ben ar hwn. Gras yn teyrnasu er yn wan. Mynwn ninau wybod pwy sydd ben yn y dyddiau hyn. Daw dydd pan y cawn weled yr holl elynion fel yr Afftiaid i gyd ar ol; hyd hyny, cofiwn mai milwyr ydym, ac mai ymladd yw ein gwaith."

"Hen wraig a ddywedai wrth weinidog, 'Nid oes genyf fi ond un enaid i'w golli. Mae gan Dduw lawer mwy, mae ganddo ef