Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/170

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

garictor i'w golli. Bydd hwnw mewn perygl os collir fi eto, waeth yr wy'n siwr fy mod wedi ymddiried yr oll iddo 'er's blynyddoedd lawer.'"

"Cymerwch ofal am danoch eich hunain yn y cynhauaf yma. Gwelir weithiau un dyn yn gwneyd ei hunan yn ffwl i ddeg ar hugain o ddynion. Nid hawdd fydd i hwnw effeithio difrifoldeb ar neb ar ol hyny gyda'i holl broffes o grefydd."

Pan yn pregethu oddiar Actau xiii. 26, dywedai, "Rhyfedd fel y mae Duw wedi gofalu am fod yr iachawdwriaeth i gyd o hono ef ei Hun, Efe yn trefnu, Efe yn gweithio allan, ac Efe yn cymhwyso. Mae Gair yr Iachawdwriaeth yr un fath. 'Dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwynt gan yr Ysbryd Glân.' Gan fod hwn wedi ei ddanfon i ni, mae Duw wedi meddwl rhoddi iachawdwriaeth i ni, os na wnawn ei gwrthod. Ni wrthodai morwyr ar suddo i'r dyfnder mor rbaffau a deflid atynt i'w codi fyny. Os gwrthod hon wedi cael cynyg arni, bydd yr euogrwydd yn fwy na phe byddech yn myned i ddinystr heb glywed am dani."

Pan yn pregethu oddiar Heb. iv. 14, dywedai, "Mae yn anhawdd gwybod paham y mae llawer yn aros gyda chrefydd. Mae glynu yn golygu dal yn dyn mewn peth, neu fod gydag ef o hyd fel Ruth gyda Naomi. Mae y glynu yn golygu ymdrech fywiol, ddi-ildio, i ddal cymdeithas â phethau y broffes ymhob man. Y rheswm sydd yma dros y glynu yw bod archoffeiriad mawr ar dŷ Dduw, a hwnw yn neb llai na Mab Duw, ac wedi myned i'r nefoedd. Mae fod un fel yma ar y tŷ yn sicrwydd y cyrhaeddir y cwbl a broffesir yn y tŷ. Gwelodd Stephan ef ar ddeheulaw Duw, ac yr oedd yn barod i ddweyd, 'Dyma yr holl broffes wedi ei sylweddoli.' Dywedir am un hen wr fod y golygfeydd oedd wedi gael yn ei gystudd yn werth pymtheg mlynedd a deugain o broffesu. Tyner y blociau gan fod y llong wedi ei gorphen, iddi gael nofio yn yr ocean. Wrth briodi a Christ, nid oes eisiau dweyd 'Hyd pan y'n gwahano angau Glynwch wrth y peth goreu."

Gadawyd lle mawr yn wâg yn Llangeitho, yn y sir, ac yn Nghyfundeb y Methodistiaid, pan alwyd Mr. Roberts at wobr ei