Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/171

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lafur. Cafodd gystudd caled a maith. Bu farw Gorphenaf 15, 1878, yn 78 oed. Codwyd cofgolofn hardd ar ei fedd yn mynwent capel Llangeitho.

PARCH. DANIEL ROWLANDS, LLANGEITHO.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Daniel Rowland
ar Wicipedia

Efe a'r enwog Howell Harris, Trefecca, yw Tadau Methodistiaeth Cymru. Ganwyd ef yn 1713, yn Pantybeudy, ger Bwlchyllan, ychydig gyda dwy filldir i'r gorllewin o Llangeitho; ac y mae ei gadair yn cael ei chadw gan deulu fu yma, ac sydd yn aelodau yn Bwlchyllan. Ei dad, o'r un enw ac yntau, oedd periglor Llangeitho a Nantcwmlle. Derbyniodd ei addysg yn Athrofa Henffordd. Yr oedd ganddo allu neillduol i ddysgu, a chafodd ei urddo pan. oddeutu 20 oed i fod yn gurad yn yr Eglwysi uchod, fel y mae y register canlynol yn Nghaerfyrddin yn profi:-"Daniel Rowland a literate person (at a general ordination on Sunday, 10th March, 1733, English style, in Duke St. Chappel, Westminster, by Bishop of St. David's), was admitted deacon and licensed to serve the cure of Llangeitho and Nantcwmlle, with yearly salary of ten pounds." Ychydig yn mhellach ymlaen ar y register, ceir "Daniel Rowland ordained priest at Abergwili, August 31, 1835." Bu farw y tad yn 1731, a chafodd ei frawd. John, yr Eglwysi ar ei ol, felly i'w frawd y rhoddwyd ef yn gurad. Dywedir fod Mr. Rowlands o'i febyd yn wr ieuanc bywiog a chwareugar, a pharhaodd felly wedi myned yn offeiriad, heb feddwl fawr, os dim, am gyfrifoldeb ei swydd. Ond yn y flwyddyn 1735, aeth i Eglwys Llanddewibrefi, i wrando yr enwog Griffith Jones, Llanddowror, a daeth adref wedi ei gyfnewid yn fawr. Yr oedd Mr. Jones wedi dal sylw arno fel gwr ieuanc balchaidd yr olwg, a gwnaeth rai sylwadau gyda'r amcan o wneyd argraff ar ei feddwl, ac ni chollodd ei nod. Aeth ar ol hyn megis i ben Sinai i bregethn y "danllyd gyfraith," a cholledigaeth pechadur yn ei hwyneb, nes cyffroi yr holl wlad. Ac o'r deffroad rhyfeddol hwn yn y Sylfaenydd, 1835, y cofnodir dechreuad yr enwad Methodistaidd Cymreig.

Daeth y gras oedd yn ei galon, a'r ysbryd gweinidogaeth cryf