Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/172

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd ynddo i 'mofyn mwy o le nag eglwysi ei ofal yn ol y ddeddf wladol. Aeth allan i'r prif ffyrdd a'r caeau i gymell pawb i'r Swper Mawr. Cafodd alwad mewn modd rhagluniaethol i fyned i Ystradffin, yn Sir Gaerfyrddin. Yr oedd gwraig oddiyno yn Llangeitho ar ymweliad â chwaer iddi; ac wedi clywed am hynodrwydd Mr. Rowlands, aeth i'w wrando. Effeithiodd gymaint arni, nes y daeth yno eilwaith ymhen yr wythnos, er dychryn i'w chwaer, gan na ddywedodd ddim wrthi. Dywedodd na chafodd lonydd gan yr "offeiriad crac" trwy yr wythnos, fel yr oedd yn rhaid iddi ddyfod i'w glywed drachefn. A daeth drachefn a thrachefn. O'r diwedd, dywedodd wrth Mr. Rowlands, os oedd yn dweyd y gwir, fod mawr angen am iddo ddyfod i ddweyd yr un pethau yn Ystradffin. Deuaf yno," meddai yntau, "ond i chwi gael cenad offeiriad y plwyf i hyny." Cafodd hyny, ac aeth yntau yno a chyflawnder bendith efengyl Crist, a chafodd dim llai na deg ar hugain eu hargyhoeddi yn yr odfa. Aeth yno yn weddol gyson ar ol hyny, a chynhyrfodd yr holl wlad. Daeth gwr bonheddig yno i'w wrando a'i gŵn hela gydag ef. Safodd yn syth ar ganol llawr yr Eglwys, er mwyn dychrynu y pregethwr; ond yn lle hyny, aeth Mr. Rowlands ymlaen heb wneyd yr un sylw o hono ef na'i gŵn. A chyn diwedd yr odfa, yr oedd yr ymwelwr wedi gorfod eistedd i lawr a'i ddagrau yn llif, dan deimlad angerddol. Ar y diwedd, gofynodd am faddeuant y pregethwr, a mynodd ef i'w dy i letya y noson hono, a buont yn ffryndiau mawr o hyny allan; a daeth hwnw yn un o wrandawyr Llangeitho. Gan fod y gwr bonheddig yn yr ardal yr oedd yn ddylanwad cryf dros gael Rowlands yn ymwelwr cyson ag Ystradffin, os nad i ddyfod yno yn gurad. Beth bynag, yn 1742, mae Mr. Rowlands yn ysgrifenu at Mrs. James, Abergafeni, "na chawsai ei oddef yn hwy i fyned i Ystradffin; ond ei fod i aros yn Llanddewibrefi, yr hon oedd yn Eglwys fawr, yn cynwys amryw filoedd o bobl." Dywedai ei fod wedi pregethu ei bregeth ymadawol iddynt oddiar Act. xx. 32, pryd yr oedd yno fwy o wylo na welwyd mewn un angladd yn nghof dyn. Dyna ddechreuad ei droad allan o'r Eglwysi Gwladol. Dywed awdwr Hanes y Bedyddwyr fod Mr.