Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/173

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rowlands yn pregethu yn Sir Gaerfyrddin yn 1837, gyda llwyddiant mawr; ac y mae hanes arall yn dweyd ei fod yn yr un flwyddyn yn pregethu yn Eglwys Defynog, ac i Harris, Trefecca, ddyfod yno i'w wrando, ac mai yno y dechreuodd y gydnabyddiaeth rhyngddynt. Yr ydym yn gweled hefyd ei fod yn Cilycwm yn 1738, dan arddeliad mawr, ac i gangen eglwys gael ei ffurfio yno yn fuan ar ol hyny mewn rhyw ffurf. Felly mae sicrwydd iddo fyned allan o'r plwyfydd a wasanaethai, ac hefyd o'r sir, mewn ychydig gyda blwyddyn wedi iddo gael troedigaeth. Gwelwn oddiwrth y llythyr hefyd fod Llanddewibrefi wedi cael ei rhoddi at yr eglwysi eraill i John ei frawd yn 1742, ac mai yma y byddai ef i fod yn fwyaf sefydlog ar ol cael ei droi allan o Ystradffin, am hwyrach, mai hon oedd y fwyaf i gynwys ei wrandawyr ef. Cynwysai o 2,000 i 3,000 o bobl. Yr oedd yn cael ei boeni yn fawr hefyd gan y chwareuyddiaethau ar y Sabbath o gwmpas Llangeitho, fel yr aeth yn y diwedd atynt i'w hanerch yn ddifrifol, nes rhoddi terfyn hollol ar y crynhoadau llygredig, a'u cael i wrando yr efengyl. Rhoddodd hyn galondid mawr iddo fyned allan i wneyd yn gyffelyb mewn lleoedd eraill.

Fel hyn, aeth y gwaith ymlaen yn gyflym, a gwelwyd angenrheidrwydd am fwy o drefn er iawn reoleiddiad yr oll. Hyn a arweiniodd i sefydlu y Gymdeithasfa a'r Cyfarfod Misol tua'r flwyddyn 1742, sef yn yr adeg yr oedd Mr. Rowlands yr arweinydd, yn dechreu cael ei droi o'r Eglwysi. Whitfield a ddewiswyd yn gadeirydd y Gymdeithasfa, a Rowlands yn ei absenoldeb, a Rowlands hefyd hefyd a ddewiswyd yn gadeirydd ar Gyfarfodydd Misol ei Ddosbarth. Wedi i Whitfield gilio, disgynodd llywyddiaeth y Cymdeithasfaoedd hefyd yn gwbl arno ef, a bu felly hyd ei farwol aeth. Yr unig beth mawr a fygythiodd ddifetha y diwygiad mawr oedd yr "ymraniad" rhwng Harris a Rowlands, y ddau ddiwygiwr. Dadl ynghylch yr athrawiaeth am Berson Crist ydoedd; Howel Harris yn dywedyd fod Duwdod Crist wedi marw pan fu Iesu farw ar y groes, a Rowlands, ac eraill barnu yn yn wahanol. Aeth y ddadl mor boeth, nes y darfu i Harris a'i bobl ymwahanu oddiwrth