Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/174

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rowlands a'i bobl, yn Nghymdeithasfa Llanidloes, 1751. Yn union ar ol hyn, rhoddodd Harris ei fwriad i godi math o Fynachdy mawr mewn gweithrediad, a gorphenwyd ef yn 1753, a hwnw yw Coleg presenol Trefecca. Yn hwn y bu Mr. Harris yn gweinidogaethu - i'r holl bobl oedd yn byw gydag ef o Dde a Gogledd, gan adael y wlad i Rowlands a'i bobl. Yn fuan ar ol hyn, yr ydym yn cael fod 3,000 o gymunwyr gan Rowlands yn Llangeitho, a 2,000 gan Howel Davies yn Capelnewydd, Sir Benfro. Daeth achwyniad at yr Esgob Squire, Esgob Tyddewi ar y pryd, ei fod yn pregethu allan o'i blwyfydd, a hyny mewn lleoedd anghysegredig, ac yn cynhyrfu y wlad ymhob cyfeiriad. Anfonodd yr esgob i'w rybuddio drachefn a thrachefn; ac o'r diwedd, anfonwyd i'w dori allan, a hyny a wnaed yn 1763, wedi iddo fod yn gweinidogaethu yn yr Eglwys am 30 mlynedd. Felly nid oedd yn ol o'i oes i fod yn Ymneillduwr hollol ond 27 mlynedd, canys bu farw Hydref 16, 1790. Mae llawer o ddadleu wedi bod ynghylch yr Eglwys o'r hon y trowyd ef allan rhai yn dweyd mai o Llanddewibrefi, eraill mai o Nantcwmlle. Os oedd yn gurad yn y tair Eglwys, y peth tebycaf yw, iddo gael ei fwrw allan o'r tair. Nid wyf yn meddwl nad oes peth gwir gan y rhai a ddywedant i ddau offeiriad ddyfod i Llanddewi, ac iddynt estyn llythyr iddo, oddiwrth yr esgob, rhwng y gwasanaeth a'r bregeth, ac iddo yntau hysbysu y dorf fawr na chawsai bregethu, ac mai allan yr aeth, a'r bobl ar ei ol. Os oedd caniatad yr offeiriad ganddo i bregethu yn Nantcwmlle, digon tebyg iddo fyned yno, a bod gwirionedd yn yr hyn a ddywedwyd gan lygad-dyst, iddo gael llythyr yno, ac iddo fyned allan gan ddweyd, "O, gallasai ei arglwyddiaeth gymeryd llai o boen arno na'ch danfon chwi yma i'm troi allan o'r Eglwys. O'm rhan i, nid af byth o fewn ei muriau mwy; os mynwch chwi, caiff fod yn llety dyllhuanod. Mae y bobl yn barod i ddyfod gyda mi." A dywedir mai yn gwbl anghyfanedd ymron y bu y rhan fwyaf o'r Llanau yn y cymydogaethau hyn am amser maith ar ol ei droi ef allan. Yr oedd un ar y Sabbath yn gweled drws Eglwys Llangeitho yn agored, ac aeth i fewn; a phwy oedd yno ond y clochydd, a'r offeiriad yn y pulpud