Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/175

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dwfn yn cyfieithu rhyw hanes o newyddiadur Saesneg i'r Gymraeg, er adeiladaeth y clochydd.

Pan oedd Rowlands yn gweled y cynghorwyr yn amlhau, a bod y bobl eisiau cael ymgeledd ysbrydol, rhoddodd ysgubor Meidrim, yr hon oedd yn feddiant iddo ef, i fod yn fath o gapel iddynt i gadw cyfarfodydd. Codwyd capel bychan yn 1760, bron yn ymyl yr un presenol. Nid oedd Rowlands ei hun yn dyfod ond yn ddirgelaidd i'r ysgubor nac i'r capel hwn, yr oeddynt at wasanaeth y cynghorwyr, a'r offeiriaid oedd wedi eu bwrw allan yn barod. Ond wedi iddo yntau gael ei fwrw allan yn 1763, adeiladwyd capel eang iddo yn 1764, ar y man, ymron, lle saif yr un presenol. Yr oedd hwn yn gapel pedwar-onglog, 45 troedfedd bob ffordd. Gelwid y tai cyntaf "tai seiat," ond hwn a elwid "eglwys newydd." Daeth y capel hwn yn gyrchfan y miloedd o Dde a Gogledd. Cyrchid yno bob Sabbath o gylch mwy nag 20 milldir, ond ar y Sabbath cymundeb, byddai dynion yno o siroedd Caernarfon a Mon yn y Gogledd, a Morganwg a Mynwy o'r De, ar rai achlysuron. Byddai y crynhoad yn fynych yn ddim llai nag o bedair i bum' mil o bobl, a byddai oddeutu deuddeg neu bymtheg cant yn cymuno, ac amryw weinidogion yn cynorthwy Mr. Rowlands yn y gweinyddiad. Gan y byddent yn dyfod i wrando y gweinidog rhyfedd erbyn haner dydd, Sadwrn y parotoad, yr oedd Ꭹ tai yn llawn o letywyr am rai milldiroedd o gwmpas. Gwelid yno yn fynych ganoedd o geffylau wedi eu cylymu yn rhesi wrth y cloddiau, a rhai o'r caeau yn llawnion o honynt. Parhaodd y cynulliadau hyn am 50 mlynedd, heb son am y 25 mlynedd blaenorol, cyn troi Mr. Rowlands allan o'r Llanau. Parhaodd y cynulliad yn hir ar ol marwolaeth Mr. Rowlands. Mae yn debyg na chlywyd son am un man yn y deyrnas, nac yn y byd, lle y bu cymaint yn dyfod ynghyd ar unwaith, ac am gymaint o anser, i wrando yr efengyl. Saif Llangeitho eto ar ei ben ei hun yn y meddiant o'r anrhydedd hwn, a'r oll oblegid gweinidogaeth rhyfedd Daniel Rowlands, yr hwn oedd yn fwy fel pregethwr na neb yn ei oes yn Nghymru, ac na neb a gododd ar ei ol. Offeryn wedi ei godi a'i