Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/176

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddonio gan Dduw i ddeffroi y wlad o'i chwsg, a newid ei harferion, gan sefydlu crefydd ysbrydol yn eu lle, oedd y dyn rhagorol hwn. Ac y mae yn debyg fod y nefoedd yn gweled na wnaethai ei lai y tro i wneyd y gwaith oedd eisiau ar y pryd.

Dywed Williams, Pantycelyn, yn ei Farwnad, am ei deithiau, ei lafur, a grym ei weinidogaeth, yn well nag y gall neb ddweyd ar ei ol. Mae ei Gofiant diweddaf yn cynwys ei weithiau, fel y gall y darllenydd ynddo gael gweled y gwrthddrych yn bur eglur, ond iddo gofio mai trwy ddrych yn unig y bydd hyny. Mae llawer wedi gwneyd ymgais ar ol ei farw i brofi mai Eglwyswr oedd, o ran egwyddor a barn, er mai gyda'r Ymneillduwyr y treuliodd y rhan ddiweddaf o'i oes. Yr ydym yn ddigon boddlon iddynt, ond iddynt gofio y ffeithiau canlynol,—1. Ei fod yn ymneillduo o'i blwyfydd i'r prif-ffyrdd a'r caeau am 25 mlynedd cyn iddo gael ei droi allan. 2. Mai am ei fod yn ormod felly, yn ol barn Eglwyswyr, y trowyd ef allan. 3. Fod yn well ganddo gymeryd ei droi allan na niwid dim o'i arferiad. 4. Iddo gael cynyg ar fywiolaeth Eglwysig Trefdraeth, yn Sir Benfro, gan John Thornton, Ysw., ac iddo ei gwrthod o gariad at bobl ei ofal, y rhai oedd yn Ymneillduwyr fel yntau; ac i'r gwr bonheddig ei fawrygu yn fwy fyth oblegid ei hunanymwadiad. 5. Iddo barhau yn Ymneillduwr hyd ei fedd. Ar yr un pryd, yr ydym ninau yn ymwybodol, iddo ddal yn Eglwyswr tra y cafodd lonydd, ac nad ymadawsai o'r Eglwys, oni bai iddo gael ei orfodi i wneyd hyny, yn hytrach nag aberthu ei gydwybod.

T.

PARCH. JOHN THOMAS, ABERTEIFI.

Gan fod ei enw ar gofrestr bedydd Eglwys y Ferwig, mae yn debyg mai yn y plwyf hwnw y ganed ef, sef yn agos i dref Aberteifi. Morwr oedd ei dad, a bu farw pan oedd ar fordaith. Ganwyd ef yn 1760, ac arferai gyfrif ei oedran wrth oedran un arall a fedyddiwyd â'r un dwfr ag ef. Cafodd ysgol nes dysgu