ysgrifenu; ond gan ei fod o deulu tlawd, rhoddwyd ef i wasanaethu yn bur ieuanc. Bu ar ryw dymor o'i ieuenctid, yn nheulu parchus Llwyngwair. a phan yno, yr oedd yn myned i foddion gras yn fynych i Eglwys Nevern; a chan fod yr offeiriad yn ymuno â'r Methodistiaid, yr oedd diwygiad mawr yn yr ardal, a dywedai Mr. Griffiths, yr offeiriad, iddo weled John Thomas yn molianu lawer gwaith, ond na byddai un amser heb sylwedd yn ei fawl. Pan oddeutu 15eg oed, ymunodd mewn proffes gyda'r Bedyddwyr yn Penparc, gerllaw Aberteifi, a bu gyda hwy am 4 blynedd. Pa fodd bynag, wedi clywed y seraphaidd Dafydd Morris, Twrgwyn, yn Nevern, a'r efengylaidd, a hynod o boblogaidd, Mr. Llwyd, o Gaio, yr oedd yn rhaid iddo gael myned i wrando y Methodistiaid hyn ymhell ac yn agos. Yr oedd ef ac un arall yn myned mor bell a Chaerfyrddin i wrando pregethwyr hynod yr oes hono. Yr oeddynt yn lletya weithiau pan ymhell o ffordd, ac yn cadw dyledswydd gyda'r teuluoedd; ac ar ol iddynt ymadael, byddai llawer o son am y bachgen bach prysur," fel ei gelwid, "a'i weddiau syml." Dysgodd y grefft o ddilledydd. Gwnaeth ef hefyd, fel llawer, briodi yn rhy ieuanc, fel y gorfu arno fyw mewn tlodi am amser maith; ond yr oedd yn ffodus bod ei wraig, Martha, yn hynach nag ef o rai blynyddau.
Yn ei briodas, torwyd ei gysylltiad â'r Bedyddwyr. Ymunodd ar ol hyny â'r Methodistiaid, yn hen gapel bychan Cwmhowni, gan ei fod yn nes yno yn byw, nag Aberteifi na Thwrgwyn, yr unig ddau le yr oedd capelau gan yr enwad ar y pryd, heblaw y lle bychan a nodwyd, yr hwn oedd mewn cysylltiad â thŷ anedd fferm o'r enw. Gan ei fod mor dlawd, aeth i Lundain i weithio ei grefft, i gael gwella ychydig ar ei amgylchiadau. Tra yno, ymunodd mewn aelodaeth eglwysig â'r ychydig Fethodistiaid oedd ar y pryd yn addoli yn Wilderness Row. Ond elai yn fynych i wrando yr enwog efengylydd, y Parch. William Romaine, M.A., periglor St. Anne, a St. Andrew; a dywedai y buasai llwyr ddarfod am dano yn y brifddinas, oni bai gweinidogaeth y gwr ymroddgar hwnw. Wedi dyfod yn ol, aeth i fyw i Pendref, Aberteifi; ac yn fuan