Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/178

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

etholwyd ef yn flaenor yn y capel. Dywedir am dano ei fod ar y pryd yn dra llym a hallt i grefyddwyr claear ac Antinomaidd. Yn y diwygiad mawr a gymerodd le yn Aberteifi a Llandudoch, yn 1794, teimlodd nerthoedd y Gair, a gwelwyd ef yn gorfoleddu lawer gwaith. Teimlodd awydd pregethu o'r blaen, ac adfywiodd yr awydd hwnw yn awr. Wrth ddarllen, gwnelai esbonio ychydig ar y penodau; ond yn siomedig iawn iddo ef, nid oedd neb yn ceisio ganddo bregethu. Torodd pregethwr ei gyhoeddiad yno un Sabbath, a chynulleidfa fawr wedi dyfod ynghyd; wedi bod yn bur gyndyn i geisio ganddo, dyma un yn dweyd o'r diwedd, "Jacki bach, ewch a darllenwch benod, a gweddiwch, ac yna aiff rhai o honom ninau i weddio ar eich ol." Darllenodd Ioan iii., ac wedi myned i'r 14 a'r 15 adnodau, gwnaeth sylwadau rhagorol ar y ddwy, a gweddiodd i derfynu y cyfarfod, heb weddio yn y dechreu o gwbl. Yr oedd yr awydd i bregethu yn ei orlenwi. Yna eisteddwyd mewn cyngor i ofyn a wnelai Jacki bregethwr, ai na wnai. "Feallai mai dysgu rhyw wers allan o lyfr a wnaeth," meddai un. "Os dysga fe wersi fel yna yn barhaus, fe wna eitha' pregethwr," meddai un arall. O'r diwedd, daethant i benderfyniad, mor bell a cheisio ganddo fyned yn ddistaw i amaethdy bychan a elwid y Bryn, i gael un prawf drachefn arno. Yno cawsant lwyr foddlonrwydd ynddo, a phregethodd wedyn yn y blaen, nes ei dderbyn i'r Cyfarfod Misol. Pan geisiodd Eben Morris gan John Williams, Lledrod, ei holi yno, dywedodd, "Nis gwn beth i ofyn iddo, y mae wedi myned heibio i mi yn ddigon pell." Yr oedd Mr. Williams yn gwybod o'r blaen am dano; ac y mae yr hyn a ddywedodd, yn brawf o'r meddwl uchel oedd ganddo o hono, yn gystal a'i hunanymwadiad yntau fel hen offeiriad, ac un oedd erbyn hyn, y gwr parchusaf gyda'r Methodistiaid yn y sir. Yr oedd Mr. Thomas yn 34ain mlwydd oed pan ddechreuodd; ac ymhen haner blwyddyn ar ol ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol, derbyniwyd ef i'r Gymdeithasfa, yn bregethwr rheolaidd i'r Cyfundeb.

Aeth ar daith ar ei draed trwy Siroedd Mynwy, Brycheiniog, a Morganwg, a'r pryd hwnw y dywedodd Mr. Jones, Llangan,`am dano,