Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/179

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Mae yr hen Apostol Iago wedi adgyfodi yn y Gorllewin, a gwae i grefydd benrhydd mwy." Yr oedd ei weinidogaeth yn gosod noddfeydd celwydd ar dân; ac yr oedd ei ddull difrifol yn traddodi, yn peri dychryn i broffeswyr cnawdol ac arwynebol, fel nad oedd ryfedd i rai o honynt ddweyd, "Nid oes dim lle i bechadur gael ei fywyd yn mhregethau y dyn yna. Daeth yn allu mawr yn y Cyfundeb yn fuan. Bu am dri mis yn gwasanaethu yr achos yn Llundain, pryd y dywedasant am daro, "Nid yw ei weinidogaeth yn cyfeirio at dymherau a serchiadau y gwrandawyr, ond yn hytrach at y deall a'r gydwybod." Wedi ei ddychweliad o Lundain, nid aeth yn ol at ei grefft, ond cysegrodd ei hunan yn llwyr at wasanaethu gyda'r efengyl; ac yr ydym yn deall fod yn rhaid iddo wneyd, gan fod cymaint o alw am dano. Yr oedd ei synwyr cryf, ei dduwinyddiaeth iachus, a'i wybodaeth gyffredinol eang, yn ei gymhwyso i lenwi cylchoedd pwysig, pan yr oedd prinder mawr am bregethwyr felly yn y wlad. Gan mor enwog oedd, yr oedd yn un o'r 13 o bregethwyr cyntaf y Methodistiaid a ordeiniwyd yn Llandilo, yn 1811. Byddai rhai o'r hen bobl llygadgraff, wrth sylwi ar nodweddau gwahaniaethol enwogion y sir, yn galw Mr. Williams, Lledrod, yn esgob, Ebenezer Richards, yn ddiwygiwr, a John Thomas, yn Doctor Divinity. Yr oedd ei lafur yn fawr, yn enwedig ar ol marwolaeth Eben Morris; "nid oedd yn pregethu,"medd ei fywgraffydd, y Parch. Thomas Phillips, D.D., Goruchwyliwr y Feibl Gymdeithas, "ddim llai na phump neu chwe' gwaith yn yr wythnos," heblaw ar ei deithiau.

Yr oedd yn wr gweddol dal, ond yn denau. Wynebpryd bychan, yn lledu o'i ên i'r talcen. Cerdded a'i ben ymlaen ar ei gorff, ac yn gerddwr da iawn. Golwg drymaidd a difrifol oedd arno. Siaradai yn araf ac yn gryf, gan bwysleisio ar y manau pwysig, heb symud fawr ar ei gorff. John Elias, wrth ei glywed yn pregethu mewn Cymania yn y Gogledd, yn dweyd mai efe oedd y pregethwr mwyaf synhwyrol yn y Corff; a D. Charles (yr hynaf), Caerfyrddin, yn dweyd ei fod yn adeiladu â bricks heb ddim ceryg llanw. Dyma rai o'i ddywediadau:—"Dyna yw maint dyn, cymaint ag ydyw