Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/180

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heb ei ddillad; dyna yw gwerth dyn, cymaint â dâl wedi talu ei ddyled." "Hi wnaeth noswaith fawr iawn o wynt neithiwr, dadwreiddiwyd llawer o dderw cryfion. Ai e, ebe y llall, ni chlywais i yr un twrw yn y byd. Pa le yr oeddit ti ynte? O, gyda'r myrtwydd yn y pant-yn y llwch." "I ba le y mae y dyfroedd yn llifo, ai i ben y mynyddoedd uchel? Nage, wr, lawr i'r dyffrynoedd. Os bendith a ddaw i'r odfa, pwy ai caiff? Ai y Phariseaid uchelfryd? Nage, y publican druan, yr hwn ni fyn edrych i fyny." "Y ffordd i wybod a ydym yn credu yn Nghrist, yw ceisio credu ynddo yn barhaus, ac nid gobeithio fod hyny wedi ei wneyd rywbryd." Pan oedd chwrer grefyddol wedi claddu mab mewn tipyn o oed, ac wedi bod mewn cystudd mawr ar ol hyny, dywedai wrth adrodd ei phrofiad yn yr eglwys, ei bod yn methu peidio grwgnach, ac mai hyny oedd yn ei gofidio. "Nid wyf," meddai yntau, "heb wybod am bethau o'r fath; ond y feddyginiaeth oreu yn eu herbyn yw gofyn yn daer am gael prawf newydd o faddeuant pechodau." Coffhaodd yr adnod hono, "Ac ni ddywed y preswylydd, claf ydwyf, canys maddeuir anwiredd y bobl a drigant ynddi,' Ië," meddai y wraig, "yn y nefoedd y maent felly." "O, nage," meddai yntau, "nid oes angen maddeuant yn y nefoedd, ond yma ar Ꭹ llawr y mae eisiau hwnw. Ië, meddai rhywun, nid ydynt yn glaf; ydynt, ond ni ddywedant claf ydwyf pan fyddo y prawf melus o faddeuant yn tawelu y meddwl yn nghanol pob gorthrymder a thrallod." "Pwy gafodd gysgod yr arch wrth fyned trwy'r Iorddonen? Neb ond y rhai oedd yn ei dilyn trwy eu bywyd."

Yn nhy y capel yr oedd yn byw am ran olaf ei fywyd. Yr oedd yn rhy lesg i fyned fawr o gwmpas wedi pasio ei 85 oed. Bu farw Chwefror 3, 1849, yn 89 oed. Mae yn ei gofiant ddeuddeg o bregethau, ac un ar ddeg o anerchiadau, pregeth angladdol iddo gan Richards, Abergwaen, oddiar Mat. ii. 6; a'r Cyngor a roddodd i bregethwyr ar ordeiniad yn Sasiwn Aberteifi, 1847. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys y dref.

PARCH. JOHN THOMAS, ABERYSTWYTH.

Bu farw y gwr da hwn am wyth o'r gloch, nos Iau, Ionawr 4ydd. 1894, yn 51 mlwydd oed. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Ysguborfach, Cwmystwyth. Enwau ei rieni oeddynt John ac Elizabeth Thomas. Yr oedd ei fam yn chwaer i'r Parch. Thomas Edwards, Cwmystwyth. Bu brawd iddo, ieuangach nag ef, o'r enw Mr.