Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/181

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lewis Thomas, am ryw 3 blynedd yn pregethu, a hyny yn obeithiol a chymeradwy iawn; ond bu farw o'r darfodedigaeth. Cafodd gwrthddrych y sylwadau hyn ysgol dda yn ysgoldy yr Hafod, gydag un William Lloyd, pregethwr Wesleyaidd. Bu am beth amser yn Morganwg, ac edrychai byth gydag edmygedd a mawrhad at gapel bychan yno, lle derbyniwyd ef at grefydd ac yn gyflawn aelod. Yr oedd o'i febyd yn un dichlynaidd ei rodiad, ond yr oedd cyfnewidiad amlwg ynddo wedi iddo ddyfod yn gyflawn aelod. Pan oddeutu 22 oed, symudodd at Mr. Thomas Howells, grocer, Aberystwyth. Wedi bod yma am oddeutu 6 mlynedd aeth yn glerc i Meistri Thomas a Roberts, marsiandwyr coed. Yr oedd bob amser yn enill serch ac ymddiriedaeth pa le bynag yr elai. Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1876. Ni chafodd fanteision athrofaol, ond yr oedd yn ddarllenwr mawr ar yr hen dduwinyddion Piwritanaidd, a chyrhaeddodd wybodaeth helaeth mewn duwinyddiaeth. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy iawn gan yr eglwysi, a chyrhaeddodd safle uchel yn ei Gyfarfod Misol, fel yr oedd yn dyrchafu yn gyflym i fod yn un o'i arweinwyr. Neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Nghymdeithasfa Dowlais, 1881. Deng mlynedd yn ol, ymgymerodd â bugeilio eglwys Gosen, a symudodd i Rhydfelin i fyw, hyd nes i'w iechyd ddadfeilio. Cafodd bir gystudd, a dioddefodd ef yn dawel. Yr oedd yn bur gyfarwydd yn y Beibl, a chafodd ef yn ffynhonell llawer o ddiddanwch hyfryd iddo yn ei ddyddiau blin. Claddwyd ef yn mynwent Penygarn. Canodd y penill canlynol ychydig cyn marw:—

"O! foreuddydd dedwydd iawn
Pan ddelo'r dorf yn un,
O bob cwr i'r ddaear faith,
I gwrdd a'u Harglwydd cûn:
Derfydd gofid a phob gwae,
A derfydd temtasiynau maith;
Derfydd pechod mawr ei rwysg,
A derfydd dyrus daith."

Yr oedd yn un o daldra cyffredin, ond yn denau o gorff. Wynebpryd gweddol grwn, coch, a hardd. Gwallt yn tueddu at fod yn ddu. Yr oedd yn siaradwr da, fel eraill o'r tylwyth, yn enwedig y rhai fu ac sydd yn y weinidogaeth. Yr oedd yn gyfaill mynwesol, ac yn ymddangos bob amser fel am wneyd y goreu o gyfaill, a gwneyd y goreu iddo. Dywedir hefyd wrthym ei fod yn ddidderbynwyneb mewn barn; ei fod yn meddu llawer o wroldeb i