Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/182

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amddiffyn cyfiawnder mor bell ag y byddai ef yn deall. Ond ei brif ragoriaeth fel gweinidog oedd ei ffyddlondeb a'i weithgarwch. Yr oedd ganddo lygaid trefniedydd da, a meddai ar galon i weithio cynlluniau allan, er gorfod wynebu llawer o rwystrau. Ond nid oedd cryfder ei gorff yn ateb i yni ac angerddoldeb ei ysbryd i fyned yn ei flaen. Felly pallodd ei nerth ar y ffordd, ac ehedodd ei ysbryd at Dduw. Ac y mae yr eglwysi yn teimlo fod bwlch mawr ar ei ol. Buasai yn dda genym gael rhoddi rhagor yma am dano, ond ni chawsom ond prin glywed am dano cyn myned i'r wasg.

PARCH. JOHN WILLIAMS, LLEDROD.

Ganwyd ef yn Pengwernhir, ffermdy i'r dwyrain o Pontrhydfendigaid, yn 1747. Mab ydoedd i William Rees Mathias, Llwynhendy, ac Anne Rees, merch Dolfawr. Gan i'w dad farw pan nad oedd ef ond 4 oed, cymerwyd ef, a Martha, chwaer ieuangach nag ef, at eu mamgu, i Dolfawr. Yr oedd modryb iddo chwaer ei fam, yn Dolfawr, yr hon a adeiladodd gapel cyntaf Pontrhydfendigaid, ar ei thraul ei hun. Yr oedd yn enwog am dri pheth pan yn ieuanc, sef mewn rhifyddiaeth, mewn chwareu pêl, ac mewn codymu. Yn amser ei ieuenctid ef y sefydlwyd ysgol enwog Ystradmeurig, a chafodd ef y fraint o yfed yn helaeth o'i haddysg, a chafodd yr addysg oddiwrth sylfaenydd haelfrydig yr ysgol ei hun, sef Edward Richard, y bardd a'r ysgolor gwych. Wedi bod yma am rai blynyddau, anfonwyd ef i ysgol yn Nghaerfyrddin, yr hon oedd yn cael ei hystyried yn uwch nag un Ystradmeurig, a'r hon oedd ar y pryd dan reolaeth y Parch. Mr. Maddon. Yna yr oedd yn barod i'r offeiriadaeth. Yr oedd gan y Parch. Daniel Jones, Sunhill, Tregaron, bedair Eglwys blwyfol yn ei feddiant, sef Tregaron, y Fynachlog, Llanwnws, a Lledrod. Gan ei fod yn myned yn hen, yr oedd arno eisiau curad. Meddyliodd am Mr. Williams, ond ofnai ei fod yn rhy ffafriol i'r Methodistiaid, gan iddo glywed ei fod yn eu gwrando yn fynych. Pa fodd bynag, galwodd am dano, a holodd ef yn fanwl am yr hyn a glywodd; a gwadodd Mr. Williams yr oll, gan ofyn pa fath ddynion oeddynt ? "O! pobl ydynt," meddai Mr. Jones, "sydd yn cyniwair trwy y wlad, gan hau pob math o heresiau gwenwynig a dinystriol." Wedi gweled cyfeiriad y gwynt, dywedodd yntau, "O! nid adwaen i neb o'r fath ddiawled, Syr, ac os mynwch, mi fyna'i brofion oddiwrth ddynion cyfrifol nad oes fynwyf a'r fath rai diffaith." "Na, na," ebai'r offeiriaid, "nid oes eisiau i chwi drafferthu, mae