Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/183

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eich iaith yn ddigon i brofi hyny." Mae yr hanes yn profi tri pheth-1. Na wyddai Mr. Williams fawr am allu yr efengyl, nac am foesoldeb uchel ar y pryd. 2. Fod bywyd y Methodistiaid ar y pryd yn fwy moesol a chrefyddol nag yr ymddangosai Mr. Williams i Mr. Jones, a bod yr olaf yn gwybod hyny yn dda. 3. Fod gelyniaeth yn Mr. Jones at y Methodistiaid, ac mai un yn eu rhegu oedd oreu ganddo gael yn gurad. Gan ei fod yn fath un mor dda yn ngolwg Mr. Jones, rhoddodd gyflwyniad iddo fyned at yr esgob, Dr. Charles Moss, yr hwn a'i hurddodd yn ddiacon, Awst 19, 1770, pan oedd yn 23ain oed; ac yn offeiriad yn Medi 1, 1771, i wasanaethu fel curad yn Lledrod a Llanwnws.

Priododd yn y flwyddyn y cafodd ei gyflawn urddau, âg Anne, merch Evan Rees Prosser, Llwyngronwen, ac aethant i Ty'nyddraenen, ffermdy yn ymyl Swyddffynon, i fyw. Yma yr oedd pan gafodd argyhoeddiad wrth glywed Williams, offeiriad Llanfaircludogau, yn pregethau yn ei Eglwys ef yn Lledrod. Yr oedd y Williams hwn yn hoff iawn o'r Methodistiaid, a phregethai yn danllyd iawn ar hyd a lled y wlad. Ar ol y bregeth aeth yn galed ar Mr. Williams, a bu am lawer o amser yn methu cysgu, a Mrs. Williams yn ei wylio rhag ofn y gwnaethai ddiwedd arno ei hun. Cerdded ar hyd y meusydd oedd a llawer o ddrain duon ynddynt y byddai, gan fyfyrio a gweddio yn barhaus. Llosgodd ei hen bregethau yn ulw; a phan oedd Mrs. Williams yn gofyn iddo ei eglurhad am hyny, dywedodd. "Eu llosgi ddylent gael ni wnaethant les i neb." Dywedodd lawer wrth bregethwyr mewn Cyfarfodydd Misol a Chymanfaoedd am yr amser caled fu arno. "Bum i am flynyddoedd," meddai, "heb wybod beth oedd gwneyd yr un bregeth; ond pan aeth yn galed arnaf am genadwri, o dan y setting ddu y ce's i hi; ac yn union wedi i mi ei chael, aeth yn rhy hallt i'r Llanwyr, fel y gorfu arna'i eu gadael, ac y mae yn dda gen i byth i mi fyn'd i rywle y gallwn gael dweyd fy meddwl wrth y bobol." Dro arall dywedai, "Ni ddylai yr un pregethwr fod heb ryw borth neu ystafell i fyn'd yno am genadwri; yr wyf yn siwr mai o dan y ddraenen ddu y ce's i yr holl bregethau a wnaeth les i'r bobol." Yr oedd yn pregethu nes cynhyrfu yr holl wlad wedi iddo ddechreu ar ol ei droedigaeth. A chan ei fod yn llenwi yr Eglwysi ymhob man, a'r fath dyru ar ei ol, penderfynwyd ei dori allan o'r Llanau; a'r Sabbath yr oedd hyny i gael ei wneyd, aeth ef at Mr. Rowlands, Langeitho, ac ni chynygiodd byth fyned yn ol i'r Eglwys, er iddo gael ei gymell ar ol hyny i gymeryd Lledrod a Llanwnws. Derbyniodd yr hen gynghorwr Siôn Camer, Tregaron,