ef yn aelod yn eglwys Swyddffynon, oedd y pryd hwnw yn cyfarfod yn ffermdy Penlan. Yr oedd hyn tua'r flwyddyn 1782.
Teithiodd lawer trwy Dde a Gogledd, pan oedd y tân dwyfol lonaid ei ysbryd, a'i lais fel udgorn arian, ac y mae lle i feddwl iddo fod yn offeryn i achub canoedd o'i wrandawyr. Yr oedd yn Llangeitho yn cynorthwyo Mr. Rowlands ar Sabbothau cymundeb, mewn undeb â Williams, Pantycelyn, ac eraill. Fel hyn cyfanogodd yn helaeth o dân Llangeitho, a gwelodd eu mynediad allan a'u dyfodiad i mewn, a'u holl drefniadau, fel yr oedd yn offeryn cymwys i arwain y Methodistiaid ar ol colli y tadau. A bu ef am yn agos i 20 mlynedd yn y sir hon heb neb ond efe, a'r Parch. John Hughes, offeiriad Nantcwmlle, yn gweinyddu yr ordinhadau. Digiodd Mr. Hughes am i'r Methodistiaid ordeinio yn 1811, ac ni chynorthwyodd hwynt ar ol hyny. Ar ol yr ordeiniad, Mr. Williams fyddai yn cael yr anrhydedd o weinyddu y tro cyntaf bron yn yr holl gapelau. Er fod y fath ddynion yn y sir a'r ddau Eben, sef Ebenezer Morris, ac Ebenezer Richards, ac eraill, efe a gyfrifent yn esgob y sir. Gan ei fod yn ddyn mor hynaws a gostyngedig, ni chymerent lawer am wneyd dim o bwys heb ei gyngor ef. I ddangos ei ostyngeiddrwydd fel hen offeiriad urddedig oedd a'r fath barch iddo gan y wlad, dywedir iddo gael ei gyhoeddi i bregethu am 10 o'r gloch yn Nghymdeithasfa Abergwaen, ar ol y Parch. Ebenezer Morris, ac i Jones, Llangan, gyfarfod â Mr. Morris cyn yr odfa, a dweyd wrtho, "Eben bach, paid a phregethu heddyw ar ol yr hen offeiriad." Ond mynodd Mr. Williams fod yn gyntaf, a dywedai ar ol hyny na chymerai dref Abergwaen yn grwn am fyned ar ol Eben. Yr oedd Eben yn awr yn ei amser goreu, ac yntau a'i lais wedi gwaethygu yn fawr yn ei flynyddoedd olaf, felly yr oedd yn adnabod ei le yn dda; a gwell oedd ganddo roddi anrhydedd i'r efengyl na mynu y peth a ystyrid yn anrhydedd arno ef.
Daeth at y Methodistiaid yn yr adeg briodol, pan oedd angen am un o'i fath, yn enwedig yn y Deheudir, a mwy fath yn Sir Aberteifi. Daeth Mr. Charles o'r Bala at y Methodistiaid bron yr un pryd ag ef, a llanwodd y ddau gylchoedd eang o ddefnyddioldeb. Gwaith Mr. Williams yn benaf oedd pregethu a chadw cyfarfodydd eglwysig, ynghyd a gweinyddu yr ordinhadau. Syrthiodd arno hefyd lawer o'r gofal am drefniadau y Cyfundeb yn y sir, ac yn y Deheudir, pan nad oedd fawr neb arall o'i safle ef i'w cael. Yr oedd ei berson yn olygus, oddeutu dwy lath o daldra; wyneb hir, ac ychydig o ôl y frech wen arno; trwyn lled hir, a llygaid yn tueddu at fod yn gauad, ond bob amser yn gwreichioni o sirioldeb,