Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/185

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nes gwneyd pawb yn ei gymdeithas yn ddedwydd. Yr oedd yn un a allai ddal gwaith caled. Yr oedd gofal fferm arno trwy ei oes; eto teithiai ymhell ac yn agos ar bob math o dywydd. Llawer gwaith ar rew ac eira a gwlaw y buwyd yn ceisio ei ddarbwyllo i aros yn ei dŷ, ond yn ofer; ac erbyn dyfod yn ol, nid oedd yn ddim gwaeth. Yr oedd yn ddiarhebol am ei brydlondeb; mynai ddechreu at y funyd. "Yr oedd ganddo watch fechan gymaint a llygad eidion," meddai blaenor wrthym, "ac â hono y rheolai y sir." Mae hanes iddo ddechreu pan nad oedd ond un yn bresenol; ond wedi unwaith, a dwy, a rhagor, dysgodd y wlad i ofalu bod mewn amser, yn enwedig pan fyddai ef i fod yno. Ni thalai barch i fonheddig yn fwy na gwreng. Unwaith yr oedd yn Capel Drindod, lle y bu yn fisol am flynyddoedd lawer: yr oedd Lady Lloyd, Bronwydd, yn myned yn ei cherbyd i wrando Griffiths, offeiriad enwog Nevern, i Landyfriog. Ond wrth fyned heibio y lle y lletyai Mr. Williams, anfonodd y gwas i ofyn a wnelai beidio dechreu yr odfa mor gynted ag arfer, er mwyn iddi hi allu cyrhaeddyd yn ol mewn pryd. "Dywedwch wrth Lady Lloyd," meddai, y dechreuaf fi yr odfa at y funyd, eled hi neu beidio." Yr oedd ganddi ormod o barch i Mr. Williams i fyned, felly cafodd y gwas droi y ceffylau yn eu hol. Yr oedd ei ofal am y ddisgyblaeth yn wybyddus i'r holl wlad, fel yr oedd ymddiried pawb ynddo y byddai yn sicr o sefyll dros y gwirioneddd hyd y gwyddai ef. Yn yr holl bethau a nodwyd, daeth yn allu cryf yn yr enwad. I osod gwerth mwy o lawer ar ei fath ef, yr oedd y fath barch yn cael ei dalu i wr o urddau esgobol gan y rhan fwyaf o'r Methodistiaid am fwy na 30 mlynedd wedi iddo ef ymuno a hwy, fel yr oedd yn dda ei fod ef ganddynt i wneyd gwaith gweinidog, nes iddynt ddyfod yn fwy goleuedig gyda golwg ar Anghydffurfiaeth ac Ymneillduaeth. Yr oedd ar yr un pryd yn ddolen gydiol rhwng urddiad esgobol a neillduad i waith y weinidogaeth gyda'r Methodistiaid, a gwnaeth lawer o waith gydag addfedu meddwl yr eglwysi i dderbyn yr elfenau o law gweinidogion Ymneillduol, a chyflwyno eu plant iddynt i gael eu bedyddio. Pregethodd lawer, a siaradodd ac ymresymodd lawer, a mwy felly nag un offeiriad arall, o blaid y rhesymoldeb o ordeinio yn y dull Ymneillduol. Yr ydym yn cael hefyd iddo wrthod gweinyddu Swper yr Arglwydd yn Llangeitho, oblegid ofergoeledd y bobl yn dweyd na oddefent i Mr. Richards, Tregaron, ei weinyddu, ac yntau wedi ei neillduo i hyny; a gwnaeth hyny lawer er dyfod a'r eglwys yno yn addfed i hyn. Yr oedd llawer yn dweyd wrtho ei fod yn dweyd yn ei erbyn ei hun; ond yr oedd yn eu troi yn ol gyda