Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/186

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dirmyg, oblegid eu hanwybodaeth a'u hofergoeledd. Yr oedd y ddau Eben, trwy eu doniau ymresymiadol helaeth, yn gwneyd llawer tuag at hyny; ond yr oedd drwgdybiaeth yn meddwl y bobl mai er eu mwyn eu hunain yr oeddynt hwy yn dadleu. Gan fod Mr. Williams wedi cael urddau esgobol, yr oedd un gair pleidiol oddiwrtho ef yn fwy na llawer oddiwrthynt hwy. Ac nid oes neb a all ddweyd faint y gwerth oedd ei fod gyda'r Methodistiaid yn y sir hon yn y fath gyfwng mor bwysig yn eu hanes.

Bu yn fendithiol iawn fel pregethwr. Am fwy nag 20 mlynedd wedi cael troedigaeth, pan oedd yn llawn tân diwygiadol, a'i lais yn ddigon cryf a pheraidd i'w weithio oll yn rymus ac effeithiol, yr oedd yn cael dylanwad rhyfedd ymhob cyfeiriad lle yr elai. Bu mewn twymyn boeth, ac yn annhebyg o gael byw. Ar ol hono, gwaethygodd ei lais; ond ar hyd ei oes, yr oedd yn cael ambell odfa fyddai yn ysgubo y cwbl o'i blaen. Yn Nghymanfa Capelnewydd, Sir Benfro, yn olaf am ddau o'r gloch y dydd diweddaf, pan yn pregethu ar y geiriau, "Yr hwn a'n achubodd ni ac a'n galwodd," &c., tua diwedd y bregeth, fel y dywedai ein hysbysydd, disgynodd megis "pelen o dan" i ganol y gynulleidfa. Yr hyn a effeithiodd ar bawb oedd y darluniad roddodd o ddyn yn myned i golledigaeth. Yr oedd ei freichiau mawrion yn estyngedig dros y stage i lawr, ac yn gwaeddi, "A welwch chwi e', a welwch chi e' yn cymeryd ei redfa yn ei rwysg dros y dibyn i lawr! 'Dyw e'n gwybod dim am y perygl sy'n ei aros, ond dyma fe ar y dibyn ! A oes neb all ei safio ? A oes neb? Ond beth wnaf ofyn, nac oes neb ond Duw. Gofynwch bobl yn marwedd dy nerth cadw blant marwolaeth.' Bydd lawr yn union, os na ddaw ymwared." Yr oedd yno lawer ar flaenau eu traed yn edrych a welent yr annuwiol yn myned i lawr, fel y dywedai y pregethwr gan gymaint y dylanwad. Ar ddiwedd yr odfa, rhoddodd y penill hwnw allan, "Caed ffynon o ddw'r ac o waed.' Bu yr emyn yn delyn i ugeiniau i ganu ar y ffordd i'w cartrefi. Pan oedd un o'r rhai oedd yn molianu ar y ffordd i Gastellnewydd, wedi dyfod at y dref, gwaeddodd, "ïe, a Chastellnewydd hefyd ddaw'n lân." Daeth y bobl allan wrth yr ugeiniau i glywed a gweled telynorion Seion, cyn iddynt fyned i mewn i gapel Bethel i wrando yr hen efengylydd melus, y Parch. John Evans, Llwynffortun.



Argraffwyd gan E. W. EVANS, Swyddfa'r 'Goleuad,' Dolgellau.