Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gofio am y falwoden a'r wagen yn y fable. Mi ddangosa i dric i hona 'nawr, meddai y falwoden, gan estyn ei chyrnau allan a meddwl upseto y wagen, ond yn lle hyny, yn slecht yr aeth hi dan yr olwyn. Ac yr w'i yn ofni, wrth eich bod yn ceisio gwneyd trick a'r ochr arall, mai yn slecht yr ewch chwithau hefyd." Yr oedd y Parch. Roberts, Llangeitho, am i bob blaenor fotiodd gyda'r Toriaid, ddyfod i'r Cyfarfod Misol ar ol hyny i ymddiswyddo. "Na," meddai yntau. "gwnewch a nhw fel y siopwr a'r brethynau sydd yn dyfod o dy y gwehydd yn rhy deneu at use, sef myn'd a nhw at y panwr i'w gwneyd yn dewach. Eisiau myn'd a rheina i'r felin ban sydd, i'w cael dipyn yn fwy o swmp."

Ar brydnhawn Sadwrn, yn Aberaeron, gan ei fod mor gyfarwydd â llongau, aeth i edrych ar long oedd yno ar y pryd yn cael ei hadeiladu. Yr oedd y saer yno yn curo ei oreu ar hoel bren i dwll, ond yn methu ; ac yn gynhyrfus o'r herwydd, dywedodd, "Mae y diafol yn y twll yma." "Os ce'st ti e i dwll," meddai yntau, "cura arno fe, yr w'i wedi treio ei gael e i dwll er's deugain mlynedd, ond heb ei gael eto." Pan yn pregethu ar brofedigaethau y Cristion, dywedai fod llawer o honynt yn brofedigaethau gwneyd. "Mae llawer o ddynion," meddai, "fel y plant gyda ni ar lan y mor, os na fydd digon o donau i siglo y cwch, gwnant siglo y cwch eu hunain i wneyd tonau bach, felly y gwna llawer brofedigaethau iddynt eu hunain.” Pan yn siarad a blaenoriaid Aberaeron mewn Cyfarfod Misol, dywedai, "Mynwch lawer o ysbryd y swydd, mae dylanwad mawr gan hyny ar bob peth. Ysbryd chwilio am yr asynod oedd yn Saul yn y boreu, ond ysbryd brenin yn y prydnhawn, ac edrychwch ch'i y cyfnewidiad wnaeth hyny arno ar ol hyny. Mae rhai o honoch a'ch business tucefn i'r counter, a phob un a rhyw drade ganddo, ac y mae tuedd yn y pethau sydd genych i fyn'd a'r bryd yn ormodol; ond os bydd ysbryd y swydd sydd genych dan y Brenin yn go lawn ynoch, bydd yn rhoddi atalfa ar lawer o bethau niweidiol, ac yn rhoddi naws hyfryd ar eich ysbryd a'ch ymddiddanion." Pan yn pregethu ar benderfyniad Ruth, dywedai, “Ar lan y mor gyda ni, gwaedda y cadben ar y bachgen i