Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

glymu y rhaff i ddal y llong wrth y bar. Gall llawer o amser fyned heibio cyn gwybod dim pa fath gwlwm fydd y bachgen wedi ei wneyd. Ond wedi i'r gwynt a'r tonau godi, a'r llong gael ei thaflu ganddynt, mae y cwlwm yn dyfod yn rhydd, yr hyn sydd yn profi nad oedd yn gwlwm iawn. Oblegid pe buasai y cwlwm ddylasai fod, myned yn dynach wnaethai po fwyaf o force fyddai arno. Tywydd garw sydd yn profi llawer gyda'u crefydd. Mae llawer o honoch wedi myned trwy ystormydd geirwon, ond y mae y cwlwm rhyngoch a'ch crefydd yn dynach heddy' nag erioed, pan y mae llawer eraill a'r cwlwm wedi rhoddi ffordd, a'r llestr wedi myn'd o flaen y gwynt."

Bu farw Ionawr yr 11eg, 1875, yn 78 oed, wedi bod yn pregethu am 42 mlynedd, wedi dechreu pregethu pan yn 36 oed, ac wedi byw ei holl oes yn ymyl Aberporth, ond iddo fyned yn aelod i Tanygroes yn ei flynyddau olaf. Gwnaeth cyfeillion Tanygroes ac eraill dysteb anrhydeddus iddo tua diwedd ei oes, i ddangos eu parch iddo, a'u gwerthfawrogiad o'i wasanaeth. Claddwyd ef yn mynwent Eglwys Penybryn.

PARCH. DAVID DAVIES, TANYGROES.

Mab ydoedd i'r Parch. Daniel Davies. Bu farw Rhagfyr 22ain, 1877, yn yr oedran cynar o 51 o flynyddoedd. Bu yn pregethu am 24 o flynyddoedd, a chafodd ei ordeinio yn Llanbedr, yn 1862. Ni ddechreuodd yntau bregethu nes yn 27 oed, ac yn cadw teulu, ac felly ni chafodd fanteision dysgeidiaeth. Bu ar y mor am flynyddoedd, ond ni chawsai lonydd gan ysbryd pregethu; ac wedi dechreu, profodd fod ynddo gymwysderau i'r gwaith. Yr oedd yn debyg iawn i'w dad yn ei bregethau a'i ymddiddanion, yn llawn o arabedd, ac o duedd i wneyd pawb yn well. Yr oedd pawb yn hoff o'i wrando yntau fel ei dad; ond barn y rhan fwyaf oedd fod ei dad yn fwy o bregethwr, ac yn fwy coeth yn ei ddewisiad o'i gymhariaethau, yn gystal ag yn eu gosodiad allan. Yr oedd ef yn fyrach o gorff na'i dad, ac yn ei flynyddoedd olaf yn ymddangos yn dewach, ond fod y tewdra a'r cochni fyddai yn ei wyneb llydan, agored, ddim yn arwyddion o iechyd cryf. Cafodd gystudd caled