Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am ddyddiau, ac yr oedd y newydd am ei farwolaeth ddisymwth yn taro y wlad â syndra ac â galar mawr, am fod cyfaill mor hoff a phregethwr mor gymeradwy wedi gadael mor sydyn.

Yr oedd yn debyg i'w dad mewn meddu ar athrylith ac arabedd mwy na'r cyffredin,—mewn meddu ar elfenau cyfeillgarwch dihysbydd,—mewn llais clywadwy, ond craslyd, eto yn hyfryd i'r cynulleidfaoedd, gan mai siarad y byddent gan amlaf,—mewn ymddangosiad gwledig, ond yn gallu rhoddi fyny gyda phawb, bonheddig a gwreng; ac nid oedd y ddau yn siarad yn uchel am y fugeiliaeth, a rhyw symudiadau eraill oedd yn ymddangos yn rhy wylltion iddynt, eto yr oeddynt yn gymeradwy iawn yn eu cartrefi, a'u gwasanaeth yn werthfawr iawn. Yr oedd yntau yn gwneyd defnydd o gymhariaethau adnabyddus ac agos, ac yn gallu eu cymhwyso yn darawiadol ac effeithiol, Unwaith, pan yn myned i'w gyhoeddiad, ac mewn brys i gyfarfod a'r train yn Llandyssul, aeth ar ei gyfer dros y mynydd ar ol pasio Blaenwern; ond gwaeddodd ffermwr, "Y dyn, beth yw eich business chwi ffordd hyn?" "Wel mi 'weda wrtho ch'i,” medda'; "defaid sy' ar goll gan Nhad, ac mae E, wedi f'hela i ar eu hol." "Fath rai i nhw?" gofynai y dyn. "Mae rhai o honynt yn dduon, a rhai yn frithion," meddai yntau, yn araf a gochelgar. "Sawl un sy' ar goll?" gofynai y dyn drachefn. "Wel wir 'dw i ddim yn gwybod, mae Nhad yn gwybod," oedd yr ateb. Ar hyny deallodd y ffermwr i raddau, ac ymddangosai yn foddlon iawn wrth adael iddo i fyned yn ei flaen. Pan yn areithio ar Demlyddiaeth, dywedai "Dirwest yw Temlyddiaeth, 'rw' i'n i nhabod hi'n dda, ac yr wi'n ei charu fel y cares i ddirwest. Pan weles i Mary (ei wraig) gyntaf, yr oedd yn gwisgo pais a gwn bach, ac mi priodes hi; aeth i wisgo gown wedi hyny, mi cares hi fel hyny: a phe byddai yn myn'd i wisgo gwn bach cwta Sir Benfro eto, mi carwn hi wed'yn; oblegid Mary fyddai hi o hyd. Felly yr w'i gyda dirwest yn y ffurf sydd arni yn awr." Pan welodd frawd wedi bod bron a chael ei ethol i swydd, ond un arall wedi ei chael, dywedodd, "Yr oedd bachgen bach i mi yn rhedeg yn wyllt iawn i'r tŷ ryw ddiwrnod, ac yn gwaeddi, 'Nhad