Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nhad, bues i bron cael brechdan 'nawr.' 'Pa'm na chest ti hi?' meddwn inau. 'O, ei rhoi i'w hogyn 'i hunan wnaeth e'" Yr oedd ei dad wedi anmharu llawer yn ei feddwl yn ei amser olaf, ac felly yr oedd cyfnither i'w dad, sef Mrs. Francis Jones, Felincwm, Rhydlewis. Gofynodd i hono pan ar ymweliad â hi, “Shwt 'rych ch'i modryb fach, yn awr?" "Dyma lle'r w'i, Dafydd bach, yn ddigon gwael, a 'does dim fynwyf a'r nefoedd dyna'r gwaethaf.” "Nac oes mi wranta, 'does dim a fyno nhad na chwithau a'r nefoedd 'nawr; ond r'w i'n gobeithio fod a fyno y nefoedd â ch'i." Claddwyd ef fel ei dad yn mynwent Eglwys y Plwyf, Penybryn.

PARCH. DAVID DAVIES, TWRGWYN.

Ysgrifenodd cefnder i hwn, sef y Parch. Griffith Davies, Aberteifi, ddwy erthygl ragorol i'r Drysorfa am 1859, yn rhoddi braslun o hanes ei fywyd, ac ni wnawn yn well na dyfynu o honynt. "Mab ydoedd i Stephan ac Eleanor Davies, Cyttir Mawr, gerllaw Blaenanerch, a brawd ï'r diweddar Barch. John Davies, o'r un lle. Yr hyn a'i hynodai fwyaf pan yn blentyn, yn gystal ag wedi iddo dyfu i oedran, oedd ei duedd anghyffredin at ganu. Dysgodd y gelfyddyd mor dda, fel yr oedd pan yn fachgenyn, yn cynorthwyo dau arweinydd canu Blaenanerch, i feistroli darnau anhawdd mewn anthem neu dôn; a phan yn 20 oed, yr oedd yn arwain y gân mewn Cymanfa Blant, yn Aberteifi. Nid yn unig yr oedd yn gallu dysgu ac arwain côr yn dda, ond yr oedd ei ddylanwad ar yr ieuenctyd, mewn ystyr foesol, yn iachus dros ben. Yr oedd ganddo dalent neillduol hefyd fel athraw Ysgol Sabbothol, i arwain y dosbarth i ddeall y Beibl, ac i ddysgu llawer o hono allan a'i adrodd. Yr oedd ein cyfaill o 18 i 20 oed pan ddaeth yn gyflawn aclod, a'r pryd hwnw daeth cyfnewidiad amlwg yn ei arferion, er gwell, er nad oedd dim yn ddrwg neillduol ynddo o'r blaen. Yr adeg hon, yr oedd ynddo syched neillduol am ddarllen. Prynodd rai o lyfrau y Parchn. John Thomas, Aberteifi, a John Jenkins, Blaenanerch, a bu am beth amser yn cadw ysgol ddyddiol yn ysgoldy y lle y blynyddoedd hyn. Cynyddodd gymaint mewn