Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwybodaeth a phrofiad o bethau crefyddol, fel y dewiswyd ef yn flaenor yn eglwys Blaenanerch, a hyny mewn modd unfrydol iawn. Ond nid oedd eto yn ei le, gan fod tuedd at bregethu ynddo er yn blentyn, ac yn dal i gryfhau. Pan amlygodd y Parch. Griffith Davies ei awydd at hyn i'r Parch. John Jones, yr oedd hwnw yn bleidiol iawn iddo. Daeth yn flaenor y gân, wedi hyny yn flaenor eglwysig, ac yn ddiweddaf yn bregethwr, ac ni chafodd neb ei siomi ynddo yn yr holl gylchoedd hyn, ond bu yn " ffyddlawn yn y lleiaf, a gosodwyd ef ar lawer." Dechreuodd bregethu tua'r flwyddyn 1856, pan yn 35 oed, ac ordeiniwyd ef yn Llanbedr, yn 1862, yr un pryd a'r Parch. David Davies, Tanygroes. Trwy ei briodas â Miss Elizabeth James, Felincwm, Rhydlewis, aeth i Twrgwyn, lle y dewiswyd ef yn fugail. Taflodd ei hun o ddifrif i waith, a chynyrchodd fywyd newydd trwy yr holl gymydogaeth, trwy ei ddull deniadol ac effeithiol i holi y plant yn y Band of Hope, a thrwy eu dysgu i ganu. Trwy ei ddiwydrwydd, ei gysondeb, a'i ddull dibrofedigaeth i bawb o weithio, daeth y fugeiliaeth yn allu cryf, adeiladol ac anrhydeddus, fel y cafodd geiriau Henry Rees eu gwirio yn Twrgwyn a Salem. Pan oedd ef yn ymddiddan âg amryw frodyr ieuainc yn Nghymdeithasfa Rhyl, a'r rhai hyny, gan mwyaf, yn fugeiliaid, dywedai, "Byddwch y fath fugeiliaid, fel os byddwch feirw, neu os gorfodir chwi i symud i ardal arall i fyw, y byddo yr eglwysi yr ydych ynddynt yn bresenol, yn gorfod teimlo nas gallant fyw heb rywrai tebyg i chwi ar eich ol."

Bu ar daith drwy y Gogledd gyda'r Parch. John Jones, Ceinewydd, yn 1865, a dywed Mr. Jones am dano:—"Ar y daith hono yn Sir Fon, cefais dair wythnos o gyfeillach ddidor ag ef; a gallaf sicrhau mai myned yn uwch, uwch yr oedd yn fy meddwl o hyd, fel dyn, ac fel Cristion, oblegid ei ysbryd llednais, diddichell, cydwybodol, a gwir ddefosiynol. Barnwyf mai un o hynodion ei fywyd oedd ffyddlondeb. Yr oedd hefyd wedi ei fendithio â synwyr cyffredin,—cryfach na llawer o wyr y "deg talent." Yr oedd ôl llafur mawr ar ei bregethau. Yr oedd yn ddarllenwr ac yn weddiwr mawr. Prawf o'i chwaeth uchel yw ei lyfrgell ragorol.