Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd ei bregethau, hefyd, yn aml yn effeithio yn anarferol ar y cynulleidfaoedd. Yr oedd hefyd yn ffyddlawn iawn i'w gyhoeddiadau, ac wrth fod felly o gartref am ryw 20 neu 30 milldir, y cafodd anwyd a brofodd yn angau iddo, wedi cystudd hynod o drwm, yr hwn a ddioddefodd yn amyneddgar, heb ofidio am ddim, ond am ei deulu oedd ar ol." Yn ei gystudd diweddaf, yr oedd yn delirious bron o hyd, yn pregethu weithiau, bryd arall yn darllen a gweddio, ac yn canu llawer iawn. Y gair diweddaf a ddywedodd yn bur floesg oedd, "Mae Sabbath far yna." Bu farw Ionawr yr Sfed, 1867, yn 45 mlwydd oed. Byr a theneu a syth o gorff ydoedd, a duaidd ei wallt a'i wynebpryd. Claddwyd ef yn mynwent capel Twrgwyn.

PARCH. JAMES DAVIES, PENMORFA.

Ymddangosodd dwy erthygl yn y Drysorfa am 1858, ar y gwr da hwn, gan y diweddar Barch. John Davies, Blaenanerch, trwy yr hyn y gwnaeth gymwynas fawr â'r Cyfundeb, yn enwedig yn Sir Aberteifi. Gan fy mod yn gwybod am yr erthyglau hyny, ni anfonais enw James Davies i'r diweddar Barch. Owen Thomas, D.D., pan anfonais ato i ofyn am yr hyn oedd yn gofio am amryw eraill, y rhai nad oedd cofiantau am danynt. Dyma ei atebiad:—"Nid ydych yn son dim am James Davies, Penmorfa. Yr oedd hwnw yn bregethwr o nodwedd uwch, os nad wyf yn camgymeryd, nag odid un o'r rhai a nodir genych, o leiaf, y mae mwy o'i bethau yn aros yn fy nghof i." Dyna farn un o oreuon Cymru am J. Davies. Clywais ef droion fy hun, a'i gorff gweddol dal, y wynebpryd, i raddau, yn ddu, a'r olwg yn drymaidd a henaidd, ac yn pregethu gyda llais gweddol uchel o'r dechreu i'r diwedd. Nid oedd yn gwaeddi digon gyda ni, yr ieuenctyd, nac yn ddigon bywiog, ond yr oeddym yn gwybod fod y bobl oedranus, ag oedd yn berchen ar farn, yn ei werthfawrogi yn fawr. Eu geiriau am dano oeddynt:—"Pregethwr trwm yw James Davies," gan feddwl fod ganddo bregeth dda, ac yn llawn o faterion pwysig, a'r rhai hyny mewn trefn chwaethus. Yr oedd y traddodiad, hefyd, yn araf a chlywadwy.