Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/25

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae yn debyg na chlywais ef ond unwaith wedi i mi ddechreu ysgrifenu penau y pregethau. Ei destyn y pryd hwnw oedd, Phil. iv. 7. Y penau oeddynt, —I. Y desgrifiad a roddir yma o'r tangnefedd,—"Tangnefedd Duw,"—1. Am mai Duw yw ei awdwr. 2. Am mai â Duw y gwneir tangnefedd. 3. Am mai yn y mwynhad o Dduw y cedwir ef. II. Maint y tangnefedd,—" Uwchlaw pob deall." III. Ei effeithiau ar y Cristion,—"A gadwo eich calonau a'ch meddyliau." IV. Y cyfrwng o ba un y mae yn tarddu,—" Yn Nghrist Iesu." 1. Fel y mae yn Gyfryngwr. Fel awdwr iachawdwriaeth, trwy ei ufudd—dod a'i angau. 3. Trwy ffydd yn uno yr enaid âg ef. 4. Trwy gymhwysiad parhaus o waed Crist. 5. Trwy osod Crist yn amcan bywyd.

Yr oedd ganddo ryw gymaint o hanes ei fywyd wedi ei ysgrifenu, ond ni wyddom pa faint. Ganed ef Rhagfyr 21ain, 1800, yn Blaenhownant isaf yn agos i Penmorfa. Ei rieni oeddynt Dafydd Davies, mab Evan Davies, ac Elizabeth Davies, merch Timothy Jenkins, Pen'rallt. Nid oedd ei rieni yn grefyddol, ond ymunodd ei fam â chrefydd cyn diwedd ei hoes. Er mwyn cael golwg ar foreu ei oes, caiff ef lefaru. "Pan yn cael fy nerbyn yn aelod o'r Gymdeithasfa yn Llangeitho, Awst 10fed, 1831, buwyd yn ymddiddan â mi am fy mhrofiad, gan y Parch. William Roberts, Clynog.. Nis gallwn ddweyd am bethau neillduol yn nechreu fy oes, er y byddwn yn cael fy nychrynu yn aml, yna yn diwygio, a meddwl fod pobpeth yn dda. Ond wedi myned allan i wasanaethu, collais bob argraffiadau oddiar fy meddwl, ac aethum y bachgen caletaf yn y wlad nes bod yn 21 oed. Y pryd hwnw, gwelais fy mod yn golledig ar bob tir nes credu yn Nghrist." Eto,—"Aethum i'r society yn Ceinewydd, Mehefin, 1822, pan yn 22 oed." Ychydig cyn hyny, yn yr un flwyddyn, dewiswyd ef yn un o'r local militia am 5 mlynedd, ac felly ymunodd â'r fyddin wladol a'r ysbrydol bron yr un pryd, ond ni rydd ychwaneg o'i hanes gyda'r militia, pa un a wasanaethodd ei dymor ai na wnaeth. Yn 1829, dechreuodd bregethu. Ar yr achlysur o ymddiddan âg ef dros y Cyfarfod Misol, yr oedd yn bresenol yn y Ceinewydd y