Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Parchn. Ebenezer Richards, William Williams, Aberteifi; John Rees, Tregaron; a John Jones, Penmorfa. Yr oedd yn y Cei gydag ewythr iddo, yn egwyddorwas yn dysgu gweithio clocs. Medi yr 16eg, y flwyddyn a nodwyd, traddododd ei bregeth gyntaf yn y Cei oddiar Rhuf. vii. 1. Ar ol iddo ddechreu pregethu, ceisiwyd ganddo gadw ysgol ddyddiol yn y Cei. Yr oedd ei dad wedi cael ysgol at fod yn offeiriad, ond cadw ysgol y bu; ac mae yn debyg, oblegid hyny, fod James Davies wedi cael graddau digonol o addysg i allu cadw ysgol y pryd hwnw mewn lle fel y Cei. Mae hyn yn cael ei brofi yn fwy trwy mai efe oedd cyfarwyddwr y cymydogaethau yr oedd yn byw, yn wladol a chymdeithasol. Efe fyddai yn ysgrifenu llythyrau, cytundebau, ac ewyllysiau. Wedi bod yn glaf mewn twymyn y 1830, symudodd yn ol i dy ei dad, lle yr arhosodd yn hen lanc am y gweddill o'i oes. Yn fuan wedi ei ddyfodiad i Penmorfa, dechreuodd gadw ysgol. Er ei fod wedi dechreu pregethu a chyfansoddi llawer o bregethau, aeth i drallod meddwl mor fawr ynghylch ei anghymhwysder i'r gwaith fel y penderfynodd roddi y gwaith i fyny. Nid oedd cymhelliadau cyfeillion yn llwyddo dim er ei godi at y gwaith drachefn. Ond pan yn druenus ei deimlad ynghylch y pwnc mawr, daeth y geiriau hyny gyda nerth at ei feddwl, "Digon i ti fy ngras i; canys fy nerth i a berffeithir mewn gwendid." Trwy y geiriau yna, cafodd ddigon o ddwfr i godi ei lestr; ac yn union ar ol hyny, cawn ef yn pregethu yn Blaenanerch ar y geiriau, “A thân fflamllyd gan roddi dial i'r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid ydynt yn ufuddhau i efengyl ein Harglwydd Iesu Grist," a hyny gydag arddeliad dwyfol amlwg, fel y daeth 15 i'r seiat yno mewn canlyniad. Ar ol hyn, aeth at y gwaith o ddifrif, a theithiodd Dde a Gogledd, gan "ddysgu ac efengylu Gair yr Arglwydd."

Fel pregethwr, meddai lawer o lyfrau da, ac yr oedd yntau yu astudiwr caled a deallus, fel y gwnaeth ddefnydd da o honynt. Yr oedd yn ffyddlawn i'w gyhoeddiadau, ac i'r Cyfarfod Misol. Fel dyn a Christion, yr oedd, fel y dywedai un, a digon o'r sarff ynddo i fod yn ddiniwed fel y golomen. "Ymhlith ei gyfeillion," medd