Tudalen:Byr Gofiant am Naw a Deugain o Weinidogion Ymadawedig Sir Aberteifi.pdf/27

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Parch. John Davies, "yr oedd yn llawen a siriol, a byddai ymhlith dieithriaid hefyd yn llon i bawb, ond yn llawn o bwyll. Yr ydoedd yn hynod o barod yn ei reswm gyda phob peth, a meddai ar ddigon o synwyr cyffredin i'w gadw rhag y rhy mewn dim. Clywsom gan rai o'i gyfoedion yn y weinidogaeth y byddai yn anmhosibl cael ganddo ddywedyd dim yn isel am neb yn ei gefn, ond yn y wyneb dywedai ei fai wrth un, pan gawsai gyfleusdra. Y rhai a'i hadwaenent oreu a'i carent fwyaf. Gellid meddwl weithiau ei fod yn ddyn dewr a gwrol, ond un hollol wahanol ydoedd. Un pruddaidd ei ysbryd, ac yn cymeryd yr ochr dywyll o bob peth. Ac, oblegid ei fod felly mae yn ddiamheu, y cafodd ei guro gymaint "yn nghrigfa dreigiau" yn ei gystudd diweddaf." Efe yw yr engraifft sydd gan lawer o'r hen bobl i brofi y gall fod yn dywyll iawn ar ddynion da, a da iawn, pan yn ymyl marw. Ofni am ei gyflwr yr oedd, rhag ei fod wedi pregethu i eraill, ond ei hun yn anghymeradwy. Ond daeth goleuni yn yr hwyr, trwy y geiriau, "A'r hwn wyf fyw, ac a fum farw, ac wele byw wyf yn oes oesoedd, Amen; ac y mae genyf agoriadau uffern a marwolaeth," ynghyd a'r geirian, "A'u hiachaodd hwynt, ac a'u gwaredodd o'u dinystr." Ordeiniwyd ef yn Llangeithio, Awst 1841. Bu glaf am oddeutu 8 mis, a bu farw Ebrill 14eg, 1853, yn 53 oed, a chladdwyd ef yn mynwent capel Penmorfa.

PARCH. JENKIN DAVIES, TWRGWYN.

Ganwyd ef yn Tirgwyn, ffermdy, ar dir yr hon y mae capel Pensarn wedi ei adeiladu, ar y 24ain o fis Mehefin, 1798. Yr oedd yn fab i'r hen flaenor enwog Evan Davies, yr hwn y ceir ei hanes yn "Methodistiaeth Cymru," fel un o'r rhai mwyaf blaenllaw yn yr ymdrech o blaid ordeinio pregethwyr. Yr oedd yn wr cymwys at y gwaith yn ymresymwr cadarn, yn ymadroddwr medrus, ac yn un o benderfyniad di—ildio. Yr oedd ef ac Elizabeth ei briod, yn arfer myned i Llangeitho, ac mae yn debyg mai dan weinidogaeth Rowlands y cafodd hi deimlo gyntaf nerth yr efengyl. Eliz-